Neuadd Arddangos Am Ddim

Does dim angen cadw lle - dewch yn ddirybudd a mwynhewch! Archwiliwch y gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe.

Cynigiodd ein harddangoswyr yn 2025 rywbeth at ddant pawb, gan gynnwys arbrofion cyffrous, arddangosfeydd rhyngweithiol a chyfleoedd i gwrdd â’r bobl sy’n ymarfer gwyddoniaeth. Cymerwch gipolwg ar restr yr arddangoswyr o’r llynedd i gael syniad am yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl yn yr ŵyl eleni.

BioHUB logo

Atebion Gwyrdd: Sut mae cynnyrch naturiol yn pweru ein bywydau pob dydd

Blwch offer byd natur: Dysgwch ragor am sut gall cynnyrch naturiol helpu i greu dyfodol gwyrddach. Byddwn yn archwilio potensial cynnyrch naturiol o ficrobau, o beiriannau algaidd i ffyngau sy'n lladd trychfilod!

 

tegan rheilffordd gyda threnau

Arddangosfa/Gweithdy Rheilffordd Ryngweithiol

Cyfle i yrru trenau ar ein rheilffordd fodel a dysgu sut mae ein system reilffordd glyfar yn gweithio.

plant yn gwneud rhai gweithgareddau

Arddangosfa Gweithgareddau Technocamps

Ydych chi'n meddwl y gallwch chi ddatrys Ciwb Rubik yn gynt na robot? Beth am sgorio gôl yn ein gêm pêl-droed robotiaid? Beth am raglennu twll mewn un gyda'n cwrs golff byr roboteg? Dewch i gymryd rhan ar ein stondin arddangosfa Technocamps!

detholiad o adnoddau addysgol mathemategol

Syrcas Fathemategol - detholiad o adnoddau addysgol mathemategol

Mae ein harddangosiadau a’n hadnoddau mathemategol llawn hwyl, swnllyd a rhyngweithiol yn diddanu ymwelwyr ac yn ennyn diddordeb mewn mathemateg gymhwysol. Gwneud mathemateg yn bleserus ac yn hygyrch i bawb.

Testun DVLA

Ydych chi'n Athrylith Codio

Rydym yn cynnal cystadleuaeth godio ar gyfer pob grŵp oedran rhwng 7 ac 16 oed dros y penwythnos gyda gwobrau TG gwych i'w hennill, ac wrth gwrs bydd digon o weithgareddau ymarferol i chi gymryd rhan ynddynt, os nad ydych am fod yn rhan o'r gystadleuaeth. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn!

llond llaw o beli lafa du

Arddangosiad o wresogi gofod carbon isel drwy ddeunyddiau storio thermol

Byddwn yn arddangos sut rydym yn bwriadu dal gwres o ddiwydiant a'i ddefnyddio i wresogi gofod. I ddangos hyn, byddwn yn cynnal digwyddiad rhyngweithiol lle gall cyfranogwyr gynhyrchu gwres o'n deunyddiau gan ddefnyddio eu hanadl.

chwilod bach

Yr holl bethau bychain..

Pwy sy'n gwneud y ddaear dan eich traed? Y pethau bychain sy'n gwneud y pridd yn iach a'r blodau lewyrchu.

diagram o feic hydrogen

Archwiliwch Ynni Hydrogen!

Dewch i ddarganfod sut gall hydrogen ein hatal rhag llygru pethau a darparu dyfodol gwyrdd ffyniannus!

Caru cynrhon

Caru cynrhon

Trowch eich ofn, eich anniddigrwydd neu'ch dirmyg tuag at gynrhon ar ei ben yn ein harddangosfa Caru Cynrhon sydd wedi'i threfnu gan Grŵp Ymchwil Cynrhon Prifysgol Abertawe

Dwy ferch fach yn gwneud gweithgareddau crefft

Ganwyd yng Nghymru: Plant Iach Teuluoedd Iach

Taflwch y bagiau ffa at y targedau gwahanol i ddangos eich gwybodaeth am yr hyn sy'n effeithio ar blant iach a bywyd teuluol iach.

Robotiaid yn rhuthro

Robotiaid yn rhuthro

Dewch i'n gweithdy robotiaid i gyfarfod â'n cŵn robot a'n cath robot 8 troedfedd

planedau gwahanol

Seryddiaeth

Gweithgareddau allgymorth i godi proffil Seryddiaeth yn Abertawe gydag arddangosiadau o delesgopau a chyfarpar a ddefnyddir gan aelodau o Gymdeithas Seryddiaeth Abertawe.

Gwybodaeth bwysig

Efallai bydd y stondinau arddangos a nodir yn ddarostyngedig i newid. Os oes gennych sylwadau ar y tudalennau gwe hyn neu’r cynnwys, e-bostiwch swanseasciencefestival@abertawe.ac.uk