Mae Science Festival Extras yn cychwyn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe cyn i brif raglen y penwythnos ddechrau. Dechreuwch eich profiad yn yr ŵyl gyda dangosiad arbennig o Daith Fyd-eang Gŵyl Ffilm Ocean 2026 yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe. Yna ewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am ddau ddigwyddiad unigryw: Maes Chwarae Cyfrifiaduron Retro, lle gallwch chi gamu'n ôl mewn amser a chael profiad ymarferol o ddefnyddio'r cyfrifiaduron a ddefnyddiodd eich rhieni (a'ch neiniau a theidiau!); a CSI Abertawe, lle byddwch chi'n ymuno ag Ymchwilwyr Lleoliadau Trosedd yn orielau atmosfferig yr amgueddfa. Ffordd berffaith o ddechrau penwythnos o ddarganfod, archwilio a gwyddoniaeth ymarferol.
Mwy o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe
CSI Swansea
Dydd Mercher 28 Hydref, 6.30pm, £10, 12+ ac oedolion, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dewch draw i’r orielau gyda’r hwyr i ymuno â’r Tîm Archwilio Trosedd, gan ddefnyddio technegau gwyddonol go iawn i astudio’r dystiolaeth a darganfod y dihiryn.
Allwch chi helpu i ddarganfod beth ddigwyddodd?
Maes Chwarae Cyfrifiaduron Ddoe
Mawrth 27 a Mercher 28 Hydref, o £1, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Dyma gyfle i fynd yn ôl i’r gorffennol a chael tro ar gyfrifiaduron o oes eich rhieni (a mam-gu a thad-cu!) – y ‘bipio’, y graffeg blociau a’r cyfan. Mae’r gweithdy 45 munud hwn yn berffaith i blant chwilfrydig rhwng 8 a 12 oed a’u teuluoedd.
Dewch i gael gwybod sut yr helpodd Cymru i adeiladu’r byd digidol!
Cyflwynir gan Cynefin Digidol
Taith Ryngwladol Gŵyl Ffilm Cefnforoedd 2026
Dydd Gwener 30 Hydref 7:30pm, £17.50, Taliesin, Prifysgol Abertawe | Ffilm
Camwch ar fwrdd y llong am noson o antur cefnforol! Mae Taith Ryngwladol Gŵyl Ffilm Cefnforoedd yn cynnwys casgliad newydd o ffilmiau cefnfor mwyaf anhygoel y byd!
Wedi'i gyflwyno i chi gan y tîm y tu ôl i Daith Gŵyl Ffilm Mynydd Banff y DU ac Iwerddon, mae'r detholiad hwn o ffilmiau byrion yn cyfuno bywyd morol syfrdanol a theithiau morwrol gwyllt mewn dathliad sinematig o'n cefnforoedd.
Gan fentro i ddyfnderoedd y blaned nad ydynt yn cael eu harchwilio'n aml, cewch gwrdd â'r syrffwyr, padlwyr, plymwyr a gwyddonwyr sydd wedi ymroi eu bywydau i ateb galwad y cefnfor. Plymiwch i ryfeddodau'r môr mawr - heb wlychu'ch traed!
Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol Abertawe
17 Hydref a 7 Tachwedd 2026, AM DDIM
Mae Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol yn dychwelyd i Abertawe am ei phedwaredd flwyddyn, gan ddod ag ymchwil a chymunedau ynghyd drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim.
Mae thema eleni sef Arian, Chyllid a Chostau Byw, yn archwilio'r penderfyniadau ariannol, yr heriau a'r profiadau sy'n effeithio arnon ni i gyd.O gyllidebau'r cartref a lles cymunedol i faterion economaidd a chymdeithasol ehangach, mae'r ŵyl yn amlygu sut gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ein helpu ni i ddeall y byd o'n cwmpas.Mae'r ŵyl sy'n agored i bawb, yn cynnig cyfleoedd i ddarganfod syniadau newydd, rhannu safbwyntiau ac ymgysylltu ag ymchwil mewn ffyrdd ystyrlon a hygyrch.
Gŵyl Bod Yn Ddynol
5 - 14 Tachwedd 2026, AM DDIM
Fel gŵyl genedlaethol y Dyniaethau yn y DU, mae Bod yn Ddynol yn dod ag ymchwil a chymunedau ynghyd drwy raglen o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim sy'n ysbrydoli chwilfrydedd, sgwrs a chysylltiad.
Mae thema'r ŵyl eleni, sef Croesffordd, yn archwilio'r adegau, y lleoedd a'r syniadau sy'n llywio ar ein bywydau. Gall croesffordd fod yn bwynt dewis, darganfod neu newid lle mae safbwyntiau gwahanol yn cwrdd, a lle gallai posibiliadau newydd ddod i'r amlwg.
Trwy raglen amrywiol o weithgareddau, bydd yr ŵyl yn arddangos sut mae ymchwil y dyniaethau’n ein helpu ni i ddeall pobl, diwylliannau, hanesion a chymdeithasau. Trwy ddod ag ymchwilwyr, cymunedau, llunwyr polisi, elusennau, addysgwyr, teuluoedd a'r cyhoedd yn ehangach ynghyd, mae Bod yn Ddynol yn creu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, cyfnewid syniadau ac archwilio rhai o'r cwestiynau sydd bwysicaf yn ein bywydau heddiw.