PRENTISIAETHAU GRADD PEIRIANNEG UWCHWEITHGYNHYRCHU

Robotics in a manufacturing factory

OPSIYNAU PRENTISIAETH A THROSOLWG O’R CWRS

Manylion allweddol y cwrs

Dyddiad cychwyn Mis Medi
Ffioedd dysgu £9000 y flwyddyn
(cyllid ar gael i fyfyrwyr cymwys, gweler Ffioedd Dysgu a Chyllid isod)
Lleoliad

Coleg Cambria yn bennaf, Glannau Dyfrdwy
Cynhelir gweithgarwch y lleoliad ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe

Cyfarwyddwr y Rhaglen  

Opsiynau Prentisiaeth

Gradd Sylfaen - Rhaglen 2 flynedd yw hon. Y cymhwyster olaf fydd Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Uwchweithgynhyrchu.

Prentisiaeth Gradd BEng - Dyma'r rhaglen 3 blynedd lawn. Y cymhwyster olaf fydd BEng mewn Peirianneg Uwchweithgynhyrchu.

 

Trosolwg o'r Cwrs

Cwricwlwm eang yw'r Brentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Uwchweithgynhyrchu sy'n ymdrin ag agweddau ar beirianneg fecanyddol a thrydanol, dylunio peirianegol, deunyddiau, dulliau gweithgynhyrchu, systemau rheoli yn ogystal â dadansoddi a modelu rhifiadol. Yn ystod y flwyddyn olaf, mae hyn yn ymestyn i bynciau mwy datblygedig awtomeiddio a roboteg, peirianneg systemau, efelychu a deunyddiau uwch.

Dyluniwyd y rhaglen ar gyfer dysgwyr a gyflogir yn y sector peirianegol, gan mai dymuniad cwmnïau fwyfwy yw cyflogi pobl â chymwysterau da sy’n gadael yr ysgol a'u cyfeirio drwy gynllun prentisiaeth gradd wedi’i sefydlu yn hytrach na chyflogi graddedigion. Mae Prentisiaeth Gradd BEng yn llwybr deniadol i gyflogeion presennol neu'r rheiny sydd wedi dilyn llwybr cymhwyster galwedigaethol yn y sector AB i ennill cymhwyster lefel gradd, gan y gellir ennill y cymhwyster ochr yn ochr â phrofiad ym myd diwydiant, a bydd llai o ddyled ar gyfer y myfyriwr.

Partneriaeth a gyflenwir ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe, Coleg Cambria a'r cwmnïau sy’n cyflogi yw’r radd BEng, a ddyfernir gan Brifysgol Abertawe. Prifysgol Abertawe sy’n dyfarnu’r graddau.

MANTEISION ALLWEDDOL YN SGÎL ASTUDIO YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda byd diwydiant ers ei sefydlu mwy na 100 mlynedd yn ôl ac mae ganddi brofiad hir o ddarparu addysg o safon sy’n seiliedig ar ddiwydiant, yn enwedig ym maes Peirianneg. Gyda chefndir ymchwil rhagorol, mae’r holl bynciau Peirianneg ymysg 25 Gorau’r DU yn ôl The Times University Guide 2021.

Nodweddion allweddol y rhaglen Prentisiaeth Gradd BEng:

  • Tiwtoriaid Peirianneg hyfedr Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe sy’n meddu ar ystod o wybodaeth ddiwydiannol ac academaidd fydd yn addysgu’r modiwlau
  • Cyfleusterau ac adnoddau o safon fyd-eang
  • Cyfuniad o astudiaethau academaidd sy'n gysylltiedig â chymwysiadau galwedigaethol ymarferol ym mhob un o’r modiwlau pwnc
  • Cysylltiadau rhagorol â llawer o fusnesau ac arweinwyr busnes
  • Cefnogaeth ragorol i fyfyrwyr, ac mae gan bob myfyriwr diwtor personol
  • Darparwr profiadol o lwybrau prentisiaeth

Mae’r rhaglen Gradd-brentisiaeth wedi’i hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).

Mae’r rhaglen hon, sy’n defnyddio’r Fframwaith ar gyfer Gradd-brentisiaethau mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch, wedi’i dylunio i fodloni’r holl elfennau craidd (adrannau 1 i 5) i sicrhau bod ein graddedigion yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr a rhyngddisgyblaethol a’u bod yn barod ar gyfer dyfodol y sector peirianneg. Mae’r Radd-brentisiaeth wedi’i hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol gan ei bod yn bodloni gofynion academaidd statws proffesiynol Peiriannydd Corfforedig ac yn bodloni’n rhannol gofynion statws proffesiynol Peiriannydd Siartredig.

EICH PROFIAD

Fel rhan o'ch cyflogaeth, byddwch chi’n cofrestru ar gyfer Prentisiaeth Gradd ac yn cael eich cofrestru fel myfyriwr gyda Phrifysgol Abertawe a Choleg Cambria. Byddwch chi’n cael eich rhyddhau o’ch gwaith am un diwrnod yr wythnos i astudio, a fydd yn cael ei gynnal fel arfer ar safle Coleg Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria. Bydd hyn yn rhan o'ch cyflogaeth arferol ac ni ddylai fod yn ofynnol i chi wneud iawn am yr oriau ar wahân.

Bydd yr un diwrnod yr wythnos yn cynnwys dysgu ac addysgu eithaf dwys gan gynnwys cyfuniad o ddarlithoedd ystafell ddosbarth confensiynol, gwaith cyfrifiadurol a gweithgareddau ymarferol/prosiect. Bydd disgwyl ichi ymgymryd ag astudiaeth ychwanegol yn eich amser eich hun y tu allan i'r cyfnodau hyn a seilir tua 25% o'r cwrs o amgylch y prosiectau gwaith y byddwch chi’n eu cwblhau yn eich gwaith arferol. Byddwch chi’n derbyn mentor yn y gweithle a fydd yn eich arwain yn hyn o beth.

Caiff yr asesiadau eu lledaenu drwy gydol y flwyddyn a bydd cyfuniad o arholiadau ffurfiol, gwaith cwrs, adroddiadau dylunio a phrosiect yn ogystal ag aseiniadau cyfrifiadurol. Wrth ddewis y prosiect, yn enwedig yn y flwyddyn olaf, byddwch chi’n gallu nodi'r pynciau ar gyfer eich prif brosiect ymchwil a fydd yn cyd-fynd â'r rôl rydych chi'n ei chyflawni yn y gweithle.

Mae hwn yn gwrs ar gyfer ymgeiswyr sy'n gweithio mewn maes peirianneg perthnasol. Bydd gofyn i gyflogwyr gefnogi eu gweithwyr o ran rhoi’r amser iddynt fynd i’r cwrs ac i astudio, heb unrhyw ofyniad iddynt weithio’r oriau yn ôl na didyniadau mewn cyflog.Byddai'n ofynnol i gyflogwyr a myfyrwyr lofnodi Cytundeb Dysgu i fod yn gymwys i dderbyn cyllid Gradd-brentisiaeth.