Peirianneg Gyffredinol, BEng (Anrh)

5ed yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa

Guardian University Guide 2026

Student using equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r byd yn newid yn gyflym ac mae cynifer o gymdeithasau ar draws y byd yn wynebu nifer o heriau cymhleth gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, cynnydd yn niferoedd y boblogaeth, a nifer yr adnoddau yn dirywio. Peirianwyr yw’r bobl sy’n meddu ar y sgiliau i ddatrys problemau a datblygu cynhyrchion a systemau i fodloni anghenion newidiol cenedlaethau’r dyfodol.

Mae cynnydd parhaus o ran pŵer cyfrifiadura a’r defnydd cynyddol o systemau integredig sy’n cysylltu systemau mecanyddol, trydanol a systemau peirianneg eraill ynghyd yn creu sectorau diwydiannol newydd sy’n torri ar draws ffiniau rhaglenni peirianneg traddodiadol. 

Wrth i  economi’r Deyrnas Unedig symud i net sero Carbon erbyn 2050, bydd angen i raddedigion ddeall eu cyfrifoldeb o ran rheoli tair colofn cynaliadwyedd (cymdeithas, yr amgylchedd, ac economi). I helpu i gyflawni hyn, mae gennym ni ffrwd cynaliadwyedd a rheoli graidd, fyd-eang gan dynnu ar arbenigedd mewn Colegau eraill  a’n partner strategol Prifysgol A&M Tecsas. 

Pam Peirianneg Gyffredinol yn Abertawe?

  • 11eg yn y DU (Guardian Univeristy guide 2026)

  • 5ed yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)

Eich Profiad Peirianneg Gyffredinol

  • Byddwch chi’n dysgu am ddiwydiannau newydd megis roboteg, awtomatiaeth a gweithgynhyrchu haen-ar-haen
  • Dysgwch am effaith peirianneg ar gymdeithas
  • Archwiliwch ddylunio creadigol
  • Profiad ymarferol ym maes dylunio peirianneg
  • Dysgwch am reoli mewn byd digidol
  • Cydweithiwch â phartneriaid diwydiant a myfyrwyr o Texas A&M ar ddylunio peirianneg byd-eang
  • Archwiliwch eich dewis pwnc yn ddyfnach trwy’r opsiwn o arbenigo mewn Gweithgynhyrchu neu Reolaeth Beirianneg
  • Mae graddedigion y cwrs gradd BEng Peirianneg ar y trywydd cywir ar gyfer ystod o gyfleoedd cyflogaeth cyffrous 

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Gyffredinol

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
  • Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
  • Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BCC

Peirianneg Gyffredinol

Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant