Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Students looking through microscope in lab

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r byd yn newid yn gyflym ac mae cynifer o gymdeithasau ar draws y byd yn wynebu nifer o heriau cymhleth gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, cynnydd yn niferoedd y boblogaeth, a nifer yr adnoddau yn dirywio. Peirianwyr yw’r bobl sy’n meddu ar y sgiliau i ddatrys problemau a datblygu cynhyrchion a systemau i fodloni anghenion newidiol cenedlaethau’r dyfodol.

Wrth i  economi’r Deyrnas Unedig symud i net sero Carbon erbyn 2050, bydd angen i raddedigion ddeall eu cyfrifoldeb o ran rheoli tair colofn cynaliadwyedd (cymdeithas, yr amgylchedd, ac economi). I helpu i gyflawni hyn, mae gennym ni ffrwd cynaliadwyedd a rheoli graidd, fyd-eang gan dynnu ar arbenigedd mewn Colegau eraill  a’n partner strategol Prifysgol A&M Tecsas. 

Pam Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • 7eg yn y DU am Ragolygon Graddedig (Guardian University Guide 2025)

  • 8fed yn y DU am Ansawdd Addysgu (Guardian University Guide 2025)

  • 12eg yn y DU (Guardian University Guide 2025)

Eich Profiad Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Byddwch chi’n dysgu am ddiwydiannau newydd megis roboteg, awtomatiaeth a gweithgynhyrchu haen-ar-haen
  • Dysgwch am effaith peirianneg ar gymdeithas
  • Archwiliwch ddylunio creadigol
  • Profiad ymarferol ym maes dylunio peirianneg
  • Dysgwch am reoli mewn byd digidol
  • Cydweithiwch â phartneriaid diwydiant a myfyrwyr o Texas A&M ar ddylunio peirianneg byd-eang
  • Archwiliwch eich dewis pwnc yn ddyfnach trwy’r opsiwn o arbenigo mewn Gweithgynhyrchu neu Reolaeth Beirianneg
  • Mae graddedigion y cwrs gradd BEng Peirianneg ar y trywydd cywir ar gyfer ystod o gyfleoedd cyflogaeth cyffrous 

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Sylfaen

Modiwlau

Mae'r rhaglen Blwyddyn Sylfaen integredig Peirianneg yn un gyffredin sy'n arwain at unrhyw un o'n canghennau peirianneg. Nid yw'n gymhwyster annibynnol, ond mae'n flwyddyn gyntaf gradd BEng 4 blynedd.

Peirianneg Gyffredinol gyda Blwyddyn Sylfaen