Trosolwg o'r Cwrs
Os nad ydych chi wedi ennill y graddau angenrheidiol i astudio ar y rhaglen BSc Bioleg y Môr, yna gallai'r radd israddedig pedair blynedd hon, sy'n cynnwys Blwyddyn Sylfaen integredig, fod yn ddelfrydol i chi.
Mae Blwyddyn Sylfaen yn ffordd wych o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ddechrau ar y rhaglen BSc Bioleg y Môr; byddwch yn cael cyflwyniad i brif themâu astudio, yn ogystal â llawer o gyfleoedd i feithrin sgiliau astudio newydd a fydd o gymorth i chi drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Flwyddyn Sylfaen hefyd yn hyblyg, ac yn caniatáu ichi ymuno ag unrhyw un o'n rhaglenni Biowyddorau ar ôl cwblhau, pe bai'ch uchelgeisiau'n newid yn ystod y flwyddyn.
O ganlyniad i faterion parhaus a hollbwysig sy'n ymwneud â’n cefnforoedd, mae dealltwriaeth academaidd o fywyd y cefnforoedd ledled y byd yn bwysicach nag erioed. Mae'r radd Bioleg y Môr hon yn hynod ymarferol ac yn seiliedig ar waith maes. Pan gaiff hyn ei gyfuno â'n lleoliad unigryw, mae’n cynnig cyfleoedd delfrydol i gael mynediad at amrywiaeth o gynefinoedd astudio i'w harchwilio yn ystod eich gradd, sy'n cynnwys glannau creigiog agored, clogwyni serth, morfeydd heli a fflatiau llaid morydol; sydd oll ar gael ar Benrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU.