Trosolwg o'r Cwrs
Mae dealltwriaeth academaidd ddofn o fywyd ar y Ddaear yn bwysicach heddiw nag erioed o'r blaen. Mae astudio organebau byw yn eu holl amrywiaeth anhygoel yn hynod ddiddorol ac yn ein helpu i nodi bygythiadau critigol a chyfleoedd pwysig, o'r raddfa leiaf i'r fwyaf. Mae'r radd bioleg hon yn rhoi'r hyblygrwydd i ti archwilio bywyd naturiol lle bynnag y mae dy ddiddordebau.
Bydd y cyrsiau maes sydd ar gael yn lleol, trefol, ac yn rhyngwladol yn dy alluogi i weithio mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Gelli astudio ecosystemau morol arfordirol trawiadol, amgylcheddau dŵr croyw a chynefinoedd Penrhyn Gŵyr sydd ar garreg y drws. Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf mewn meysydd ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd gan gynnwys ein cyfleusterau labordy newydd, y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, amgueddfa sŵolegol, cwch ymchwil 18 metr pwrpasol a chanolfan ddelweddu unigryw sy'n dangos gwybodaeth amlddimensiynol o ddata dilyn trywydd anifeiliaid. Yn dy flwyddyn olaf, fe fyddi di’n gwneud prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar y maes, ar y labordy neu’n hollol ddadansoddol.