Trosolwg o'r Cwrs
Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol i astudio am y radd BSc israddedig mewn Sŵoleg, gallai’r rhaglen pedair blynedd hon, gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen integredig, fod yn ddelfrydol i chi.
Y Flwyddyn Sylfaen yw'r ffordd berffaith o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddechrau'r rhaglen BSc Sŵoleg; byddwch yn cael cyflwyniad i themâu astudio allweddol, yn ogystal â digon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau astudio newydd a fydd o gymorth i chi drwy gydol eich gradd. Mae'r Flwyddyn Sylfaen hefyd yn hyblyg, ac yn caniatáu ichi ymuno ag unrhyw un o'n rhaglenni Biowyddorau ar ôl cwblhau, pe bai'ch uchelgeisiau'n newid yn ystod y flwyddyn.
Mae'r ddisgyblaeth Sŵoleg wrth wraidd ein dealltwriaeth o'r byd naturiol. Yma, byddwch yn cael cyfleoedd unigryw i ymroi i astudiaethau gwyddonol o anifeiliaid, gan gynnwys eu ffisioleg a'u hanatomeg, eu hecoleg a'u hymddygiad, eu hesblygiad a'u cadwraeth, gan ennill y sgiliau i chwarae prif rôl mewn llawer o sectorau, o fioleg y ddaear a bioleg y môr a chadwraeth i amaethyddiaeth, iechyd y cyhoedd a milfeddygaeth.
Bydd gennych gyfle heb ei ail i astudio anifeiliaid yn eu hamgylcheddau naturiol, o'r cynefinoedd arfordirol, dŵr croyw a daearol cyfoethog ar ein stepen drws ar Benrhyn Gŵyr, i ymweliadau ag amgylcheddau bellach i ffwrdd yn ystod cyrsiau maes preswyl yn y DU ac yn rhyngwladol.