Eifftoleg a Hanes yr Henfyd, BA (Anrh)

Meithrin eich Diddordeb a'ch Brwdfrydedd ar gyfer yr Hen Aifft a'i Chymdogion

Myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn gwrs cyffrous sy'n cynnig astudiaeth gynhwysfawr o hanesion a diwylliannau cyfoethog yr hen Aifft, Groeg a Rhufain. Drwy'r rhaglen hon, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn gwaith ymchwil, dadansoddi a meddwl yn feirniadol, wrth ddatblygu dealltwriaeth ddofn o strwythurau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd y diwylliannau a chymdeithasau hynafol hyn.

Gyda ffocws ar gelf, archeoleg, ieithoedd a llenyddiaeth y cymdeithasau hyn, bydd y rhaglen hon yn rhoi i chi sylfaen gref i astudio byd Môr y Canoldir Dwyreiniol hynafol, wrth gynnig ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr mewn llawer o ddiwydiannau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd academaidd, sefydliadau diwylliannol, cyhoeddi, twristiaeth neu feysydd eraill sy'n gwerthfawrogi sgiliau meddwl yn feirniadol, ymchwil a chyfathrebu, mae'r BA Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn ddewis perffaith ichi. Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon i archwilio'r byd hynafol, ei etifeddiaeth a'i effaith ar gymdeithas gyfoes.

Pam Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn Abertawe?

Rydym ar Gampws Parc Singleton, lleoliad trawiadol sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn ymuno â rhaglen flaenllaw yn Abertawe, sydd yn y safleoedd canlynol ar hyn o bryd:

  • Yn yr 2il safle yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2026)
  • Yn y 3ydd safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Yn y 5ed safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • Yn yr 8fed safle yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Yn y 9fed safle yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Guardian University Guide 2026)
  • Ymhlith y 51-150 o brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2025) 

Eich Profiad Eifftoleg a Hanes yr Henfyd

Mae'r cyfle i greu profiad gwerthfawr yn hanfodol i'r rhaglen hon, gyda nifer o gyfleoedd i chi fynd allan o'r ystafell ddosbarth. O deithiau maes hanes a threftadaeth, i gyfleoedd am leoliadau gwaith amrywiol sy'n gwella eich dealltwriaeth o’r ddiwydiant amgueddfeydd ac arferion treftadaeth. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i wirfoddoli yn ein Canolfan Eifftaidd, sy'n gartref i dros 5,000 o arteffactau, a gallwch fanteisio ar ein cysylltiadau agos ag ysgolion lleol drwy Hwb Clasuron Cymru, â'n modiwl lleoliad gwaith, lle gallwch gael profiad yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig amryw o gyfleoedd i chi ddangos eich dealltwriaeth newydd o'r byd hynafol. Efallai gofynnir i chi lunio 'cylch bywyd gwrthrych', sy'n nodi sut cafodd sbesimenau penodol eu creu a sut gwnaethant gyrraedd eu lleoliad presennol, neu lunio cynllun i arddangos arteffactau penodol. Bydd ein haseiniadau'n eich helpu chi i ddatblygu eich gallu i gyfleu eich gwybodaeth mewn amryw o ffyrdd, drwy gyflwyniadau, postiadau blog neu aseiniadau creadigol yn ogystal â thraethodau ysgrifenedig mwy traddodiadol. Caiff yr aseiniadau hyn eu strwythuro'n ofalus i'ch cefnogi chi i fagu sgiliau a hyder wrth i chi astudio.

Hefyd, byddwch yn cael eich annog i ymgysylltu â'n grwpiau ymchwil sefydledig, sy'n croesawu siaradwyr gwadd arbenigol yn rheolaidd.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau megis Unol Daleithiau America, Canada, Tsieina, Hong Kong, neu Singapore, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan roi i chi brofiad gwerthfawr o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl, sy’n cynnig cyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Er mai chi fydd yn gyfrifol am sicrhau lleoliad gwaith, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy'n darparu ystod o gyfleoedd lleoliad gwaith. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich taith ymgeisio â chyngor, arweiniad ac adnoddau ychwanegol. Os na allwch sicrhau lleoliad gwaith erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen radd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Eifftoleg a Hanes yr Henfyd

Fel myfyriwr graddedig y rhaglen hon, byddwch fel arfer yn datblygu sgiliau cyflwyno ac ysgrifennu rhagorol sy'n gysylltiedig ag ymchwil, dadansoddi a datrys problemau. Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu eich syniadau mewn amrywiaeth eang o fformatau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch bywyd ar ôl y brifysgol.

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys:

  • Rheoli Treftadaeth a Thwristiaeth
  • Amgueddfeydd a Sefydliadau Diwylliannol
  • Addysg ac Addysgu
  • Cyhoeddi, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Busnes a Rheoli
  • Gwleidyddiaeth a'r Gwasanaeth Sifil
  • Ymchwil a Datblygu

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd gyda Blwyddyn Dramor

Eifftoleg a Hanes yr Henfyd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant