Trosolwg o'r Cwrs
Mae Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yn gwrs cyffrous sy'n cynnig archwiliad cynhwysfawr o hanesion a diwylliannau cyfoethog yr hen Aifft, Groeg a Rhufain. Drwy'r rhaglen hon, byddwch chi'n meithrin sgiliau gwerthfawr mewn ymchwil, dadansoddi a meddwl yn feirniadol, gan ddatblygu dealltwriaeth ddofn o strwythurau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd y diwylliannau a'r cymdeithasau hynafol hyn.
Gan ganolbwyntio ar waith celf, archaeoleg, ieithoedd a llenyddiaeth y cymdeithasau hyn, mae'r rhaglen hon wedi cael ei dylunio i sicrhau bod gennych sylfaen gref ar gyfer astudio byd hynafol y Canoldir Dwyreiniol, a chan ddarparu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr mewn llawer o ddiwydiannau i chi.
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa yn y byd academaidd, sefydliadau diwylliannol, cyhoeddi, twristiaeth, neu feysydd eraill sy'n gwerthfawrogi pwysigrwydd sgiliau meddwl yn feirniadol, ymchwil a chyfathrebu, y radd BA mewn Eifftoleg a Hanes yr Henfyd yw'r dewis perffaith i chi. Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon i archwilio'r byd hynafol, ei waddol, a'i effaith ar gymdeithas fodern.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen ychwanegol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 y radd BA.