Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes yr Henfyd yn archwilio diwylliannau'r hen Roeg a Rhufain, a'u rhyngweithiadau â'r byd y tu hwnt. Ar yr olwg gyntaf gall gwareiddiadau o'r fath ymddangos fel byd anghysbell, ond maent yn parhau i ddylanwadu ar ein byd ni hyd yn oed heddiw.
Mae'r rhaglen hon, sy’n cynnwys Blwyddyn Sylfaen, yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, gan roi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant o’ch astudiaethau.
Bydd y rhaglen yn eich cyflwyno i ddamcaniaethau, methodolegau a ffynonellau (gan gynnwys archeoleg) i'ch helpu i ddeall profiadau personol amrywiol pobl wahanol a oedd yn byw yn yr Henfyd. Mae astudio ar gyfer y radd BA hon sy'n para pedair blynedd yn agor drysau i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu chi i ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu am hanes a chymdeithas, pensaernïaeth ac archeoleg, rhyfel ac ymerodraeth, rhywedd, crefydd, gwleidyddiaeth ac economeg Roegaidd a Rhufeinig, neu i ddysgu am yr Hen Aifft. Gallwch hefyd ddewis dysgu Groeg neu Ladin Hynafol.