Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Dechrau ar eich Taith yn y Cyfryngau

Students sat around a table

Trosolwg o'r Cwrs

Mewn byd sy'n cael ei lywio’n gynyddol gan dechnolegau digidol, mae llythrennedd y cyfryngau yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer deall y byd o'n cwmpas ond i ddylanwadu arno'n weithredol.

Mae ein gradd BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu'n cynnig cyfuniad deinamig o theori feirniadol, profiad ymarferol a meddwl blaengar a fydd yn rhoi'r sgiliau i chi ddadansoddi,  creu ac arloesi ym meysydd newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau digidol a ffilm.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Mae'r rhaglen hon yn ymgorffori meddwl yn feirniadol, llythrennedd y cyfryngau, a dysgu dan arweiniad ymchwil o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn elwa o addysgu gan arbenigwyr, sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag ymchwil arloesol yn y cyfryngau, ochr yn ochr â phrosiectau byd go iawn, asesiadau dilys ac amrywiaeth o fodiwlau ymarfer arloesol sy'n adlewyrchu ymarfer y diwydiant.

Mae ein gradd BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn sicrhau eich bod yn feirniadol wybodus ac yn meddu ar sgiliau ymarferol, gan sicrhau eich bod yn graddio â'r sgiliau hanfodol i ddod yn weithiwr proffesiynol hyblyg a myfyriol yn y cyfryngau sy'n barod i fynd i’r afael â thirwedd cyfryngau sy'n newid yn gyflym a chyfrannu ati.

Drwy astudio cysyniadau megis hanes a hunaniaeth y cyfryngau, tuedd algorithmig a'r economi wleidyddol ddigidol, byddwch chi'n cael dealltwriaeth hanfodol o sut mae’r cyfryngau yn trawsnewid cymdeithasau ac yn dylanwadu ar fywyd pob dydd. 

Pam Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Addysgir y rhaglen ar gampws hyfryd Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ar ymyl Penrhyn Gŵyr;

Mae Cyfryngau a Chyfathrebu yn Abertawe yn yr:

  • 2il safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026) 
  • 5ed safle yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2025)*
  • 5ed safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 16eg safle yn y DU (Guardian University Guide 2026)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i'ch paratoi am fywyd ar ôl y brifysgol. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio ein cysylltiadau â diwydiant a'n pwyslais ar y sgiliau rhyngbersonol penodol a nodwyd gan ein panel diwydiant fel rhai sy'n allweddol yn eu prosesau recriwtio.

Eich Profiad Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Sylfaen

Trwy ein rhaglen hynod amrywiol a hyblyg, gallwch deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau ac i gyd-fynd â'ch nodau gyrfa.

Mae gan ein rhaglen ystod eang o fodiwlau dewisol i chi ddewis ohonynt. Gallwch ddewis pynciau sy'n cynnwys ymarfer yn y cyfryngau creadigol, astudiaethau ffilm, gan gynnwys dadansoddi a chynhyrchu, cyfryngau cymdeithasol a digidol, ysgrifennu ffuglen, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Mae blwyddyn dramor yn rhoi cyfle i chi wella eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, gan ddatblygu eich sgiliau ym maes newyddiaduraeth ryngwladol a chreu cynnwys.

Gallwch dreulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau cyflogedig, gyda chyflog cyfartalog o £20,000+. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Os ydych yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gallu trosglwyddo i'r rhaglen radd 3 blynedd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae cysylltiadau agos yr Adran ag amrywiaeth o sefydliadau'r cyfryngau a chyfathrebu yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith ac interniaethau ar bob lefel astudio. Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd gan sefydliadau lleol sy'n cynnig lleoliadau gwaith â thâl a rhai gwirfoddol, i ddiwallu angen cyflogwyr am fyfyrwyr medrus i lenwi rolau cyfathrebu tymor byr.

Ar ben hyn, yn y drydedd flwyddyn, gallwch gofrestru ar ein modiwl interniaeth sy’n cynnig credydau. Byddwch yn ymgymryd â 50 awr o leoliad gwaith mewn amrywiaeth o rolau cyfathrebu, gan gynnwys mewn gweithleoedd cyfrwng Cymraeg lle bo’n briodol.

Mae’r ymagwedd ragweithiol hon at gyflogadwyedd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn gallu datblygu CV sy’n creu argraff dda. Yn ogystal, gall interniaethau gynnig cyfle i chi roi’r ddamcaniaeth a astudiwyd mewn darlithoedd ar waith yn y byd go iawn. Bydd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol, mentoriaid a darpar gydweithwyr yn y dyfodol, a meithrin cysylltiadau sy’n gallu arwain at gynigion neu argymhellion am swyddi amser llawn i’n graddedigion.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac wedi cael eu cyflogi ledled y byd mewn meysydd fel:

  • Y Cyfryngau
  • Cyfathrebu
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a Radio
  • Cyhoeddi

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CDD-DDD

Y Cyfryngau a Chyfathrebu gyda Blwyddyn Sylfaen