Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students studying together

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Astudiwch radd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda ni, a byddwch yn gallu dysgu'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y maes cyffrous hwn.

Mae ein cwrs gradd wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus a chaiff ei addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac academyddion blaenllaw.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Cewch gyfle i astudio cyfathrebu strategol, ymarfer digidol ym maes cysylltiadau cyhoeddus, damcaniaeth cysylltiadau cyhoeddus, strategaeth, marchnata a brandio, busnes ac entrepreneuriaeth, newyddiaduraeth a datblygiad proffesiynol.

Bydd lleoliad gwaith yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o gysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau, a bydd gennych opsiwn o astudio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA.

Pam Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae pwnc Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, yn y safleoedd canlynol:

Mae'r Cyfryngau yn Abertawe yn:

  • 8fed yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 8fed yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 10fed yn y DU ar gyfer Ansawdd Dysgu (Times Good University Guide 2025)

Eich Profiad Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Sylfaen

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Byddwch yn dechrau'r cwrs gradd yn eich ail flwyddyn, pan fyddwn yn cynnig gradd amrywiol a hyblyg, felly gallwch lywio eich cwrs mewn ffordd sy'n gweddu i'ch nodau gyrfa yn ogystal â datblygu eich diddordebau eich hun.

Gallwch ddarganfod pam mae Cysylltiadau Cyhoeddus yn bwysig i lwyddiant pob cwmni, a dysgu am fanteision datblygu cydberthnasau hirhoedlog â chwmnïau a gweithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys gohebwyr newyddion, hysbysebwyr a marchnatwyr, ymarferwyr yn y cyfryngau a gwleidyddion.

Byddwch yn meithrin sgiliau creadigol er mwyn rheoli ymgyrchoedd cyfryngau digidol a chyfarwyddo dulliau cyfathrebu strategol rhyngwladol, gan arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus. Gallwch hefyd astudio llwybrau penodol ym meysydd cyfryngau digidol ac ymarferol, ffilm a newyddiaduraeth.

Byddwch yn meithrin sgiliau cyffredinol â sail eang er mwyn arbenigo mewn astudiaethau pellach neu sgiliau hanfodol ar gyfer y gweithle proffesiynol.

Bydd cyfle i fynd ar leoliad gwaith a threulio semester dramor, sef dau brofiad a fydd yn cyfoethogi eich rhagolygon gyrfa yn fawr.

Bydd gennych tiwtor personol a all ddarparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein graddedigion Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau wir yn rhyngwladol a chânt eu cyflogi ym mhob cwr o'r byd. Maent yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • Hysbysebu
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Newyddiaduraeth
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a Radio
  • Cyhoeddi

Modiwlau

Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch chi'n dewis modiwlau a fydd yn cynnig sgiliau astudio allweddol i chi, gwybodaeth am y pwnc, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Yna byddwch chi'n symud ymlaen i’ch gradd.

Pan fyddwch yn symud ymlaen i'r rhaglen gradd, bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau i chi, cyn i chi ddewis eich llwybr eich hun gyda modiwlau sy'n gweddu i'ch diddordebau eich hun.

Cysylltiadau Cyhoeddus a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Sylfaen