Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
student filming sport

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Ar ôl symud ymlaen o'r flwyddyn sylfaen, cewch gyfle i astudio ein rhaglen sydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel creawdwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol ar draws y cyfryngau cyfathrebu chwaraeon cyfoes.

Datblygwyd y cwrs hwn i sicrhau y byddwch yn graddio fel creawdwr cynnwys chwaraeon galluog a chymwys, sy’n meddu ar sgiliau newyddiadurol, ac sy’n fedrus wrth greu a hyrwyddo cynnwys amlgyfrwng sy’n canolbwyntio ar chwaraeon, o bodlediadau i adroddiadau ar gemau ac o sylwebaeth chwaraeon i strategaethau cyfathrebu chwaraeon hyrwyddol. 

Pam Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Cewch eich addysgu gan academyddion sydd ag ystod eang o brofiad yn y diwydiant a byddwch yn elwa o fynediad at gyfleusterau ffilmio, golygu a dylunio o safon diwydiant. Yn ogystal, mae ein cysylltiadau agos â sefydliadau chwaraeon fel Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch, a’n partneriaeth â Chwaraeon Abertawe yn golygu y byddwch yn cael safbwynt y diwydiant cyfathrebu chwaraeon ar draws eich rhaglen radd.

Mae’r rhaglen hon wedi’i lleoli o fewn ein hadran Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus. Mae Cyfryngau yn Abertawe wedi cael y sgorau canlynol:

  • 8fed yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 8fed yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 10fed yn y DU ar gyfer Ansawdd Dysgu (Times Good University Guide 2025)

Mae’r cwrs hwn wedi’i leoli yn ein campws Parc Singleton bendigedig, mewn tir parc sy’n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr. Byddwch hefyd yn agos i ddinas Abertawe, sy’n ddinas fywiog, amlddiwylliannol, ddiogel a chost-effeithiol.

Eich Profiad Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen

Bydd ein cwrs gradd BA (Anrh.) Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch ac mae'n rhan o gwrs gradd integredig pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Byddwch yn dysgu sut i wella eich sgiliau llafar ac ysgrifennu, ymchwilio a chasglu gwybodaeth, cyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, datrys problemau a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Byddwch yn dechrau'r cwrs gradd yn eich ail flwyddyn. Ar ein rhaglen Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant byddwch ddatblygu a chymhwyso set amlddimensiynol o sgiliau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gwybod sut i ddod o hyd i stori newyddion chwaraeon ddiddorol a chymhellol, ysgrifennu’r stori honno i’w chyhoeddi, ffilmio a/neu recordio’r stori honno i’w darlledu neu ar gyfer eu podlediad, golygu’r pecyn fel y gellir ei ddarlledu mewn fformatau amrywiol, a gwybod sut i ddenu cynulleidfaoedd a hyrwyddo’r stori honno.

Y tu allan i’ch astudiaethau, byddwch yn rhan o gymuned fyfyrwyr gefnogol ac yn gallu cymryd rhan mewn llawer o wahanol glybiau chwaraeon a chymdeithasau gan gynnwys cymdeithas y cyfryngau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae gyrfaoedd disgwyliedig yn amrywio o:

  • Newyddiadurwr Chwaraeon
  • Darlledwr Chwaraeon
  • Arbenigwr Cysylltiadau Cyfryngau
  • Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Chwaraeon
  • Cydlynydd Digwyddiadau Chwaraeon
  • Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus Chwaraeon
  • Arbenigwr Marchnata Chwaraeon
  • Dadansoddwr/Sylwebydd Chwaraeon
  • Creawdwr Cynnwys Chwaraeon
  • Cyfarwyddwr Gwybodaeth Chwaraeon

Mae cyfleoedd ar gael hefyd i astudio ymhellach ar lefel Meistr.

 

Modiwlau

Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch chi'n dewis modiwlau a fydd yn cynnig sgiliau astudio allweddol i chi, gwybodaeth am y pwnc, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Yna byddwch chi'n symud ymlaen i’ch gradd. 

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant gyda Blwyddyn Sylfaen