Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Astudiwch Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen a Datblygu Sgiliau Gwerthfawr

students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Manteisiwch ar eich diddordeb yn y gorffennol drwy astudio hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r canol oesoedd i'r presennol.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Mae astudio’r cwrs gradd BA integredig pedair blynedd hwn yn agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.

Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen radd lawn.  Mae’n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gefnogaeth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i addysg ar ôl bwlch.

Pam Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Ar ein campws Parc Singleton rhagorol, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe wrth ymyl Penrhyn Gŵyr, mae gan ein cwrs Hanes ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn ymhlith myfyrwyr a chyflogwyr:

Cewch eich addysgu gan staff ag arbenigedd yn hanes Prydain, Ewrop ac America, o'r canol oesoedd i'r presennol, ar bynciau sy'n cynnwys rhyw, rhywioldeb ac anghydraddoldeb; treftadaeth a hanes yn y gweithle; meddygaeth, iechyd ac anabledd; a rhyfel, trais a heddwch.

Gallwch astudio'r gorffennol y tu allan i'r ddarlithfa a'r llyfrgell, drwy deithiau maes a modiwlau teithiau astudio, gan ddefnyddio eich gwybodaeth mewn lleoliad gwaith. Gallwch ddewis treulio semester dramor gydag un o'n partneriaid niferus yn Asia neu Ogledd America.

Hanes yn Abertawe:
  • Mae 94% o  raddedigion Hanes yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025).

 

Eich Profiad Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned sy'n gynhwysol ac yn bwrpasol i fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu haddysgu a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Drwy gydol eich cwrs, bydd gennych chi Tiwtor Personol i'ch cefnogi i gyrraedd eich nodau. Mae'r Gymdeithas Hanes, dan arweiniad myfyrwyr, yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau diwylliannol, ac mae'n un o lu o gymdeithasau a fydd ar gael i chi ymuno â nhw fel myfyriwr yn Abertawe.

Cyfleoedd Cyflogaeth Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae astudio hanes yn meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar, datrys problemau, a chasglu a dadansoddi gwybodaeth.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Treftadaeth ac Amgueddfeydd
  • Busnes a Rheoli
  • Y Gyfraith a Gwasanaethau Cyhoeddus

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CDD-DDD

Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen