Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Header image

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen yn ymchwilio sut mae iaith yn gweithio a sut mae cymdeithasau'n cyfathrebu.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Bydd astudio'r radd pedair blynedd hon yn agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Pam Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar ein Campws Parc Singleton hardd, yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr,

Rhestrir Saesneg yn Abertawe:

  • 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 20 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
  • 101-150 uchaf yn y byd (QS World University Rankings by Subject 2025) 

Ym Mlwyddyn 2, gallwch ddewis sefyll arholiad Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA), cymhwyster proffesiynol ar gyfer athrawon Saesneg fel iaith dramor.

Gallwch hefyd ddewis astudio modiwlau Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL).

Eich Profiad Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Byddwch yn dechrau'r radd yn eich ail flwyddyn, gan astudio pynciau megis sut defnyddir iaith i gyfathrebu mewn bywyd pob dydd, sut mae iaith wedi datblygu dros amser, effaith tafodiaith ac acen ar hunaniaeth, a her dysgu neu addysgu ieithoedd newydd.

Trwy gydol eich gradd bydd gennych tiwtor personol ar gyfer unrhyw gefnogaeth fugeiliol ac academaidd.

Yn ystod yr ail flwyddyn, i wella'ch profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa, mae gennych opsiwn i astudio semester dramor yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.

Mae hefyd llawer o gyfleoedd ar garreg eich drws: Mae Rhaglenni Lleoliad Gwaith Prifysgol Abertawe'n cynnig tair rhaglen lleoliad gwaith: Wythnos o Waith (WoW), Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) a Lleoliadau Gwaith wedi'u hariannu gan Brifysgolion Santander.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe’n darparu rhwydwaith ar gyfer cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr, yn amrywio o sgyrsiau a gweithdai cyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad y myfyrwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae myfyrwyr y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu gwych, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn mynd i yrfaoedd mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg ac addysgu
  • Marchnata a chyfryngau cymdeithasol
  • Gweinyddu prosiectau
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Therapi Lleferydd

Modiwlau

Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch chi'n dewis modiwlau a fydd yn cynnig sgiliau astudio allweddol i chi, gwybodaeth am y pwnc, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Yna byddwch chi'n symud ymlaen i’ch gradd.

Iaith Saesneg gyda Blwyddyn Sylfaen