Iaith Saesneg a'r Cyfryngau, BA (Anrh)

Archwilia Ystod o Arferion y Cyfryngau Creadigol i dy Baratoi ar Gyfer Gyrfa

header

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Saesneg a'r Cyfryngau yn ymchwilio ymarfer y cyfryngau creadigol ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys radio a chynhyrchu fideos, y cyfryngau cymdeithasol a digidol, newyddiaduriaeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata.

Bydd astudio'r radd tair blynedd hon yn agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Pam Iaith Saesneg a'r Cyfryngau yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar ein Campws Parc Singleton hardd, yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr, mae myfyrwyr a chyflogwyr yn meddwl yn fawr o Saesneg a'r Cyfryngau:

Cyfryngau yn Abertawe:

  • 8fed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 2il yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 10fed yn y DU am Ansawdd y Dysgu (Times Good University Guide 2025)
  • 5ed yn y DU ar gyfer llais myfyrwyr (NSS 2025)*

Saesneg yn Abertawe:

  • Iaith Saesneg 3ydd yn y DU (NSS 2025)**
  • Safle 11 yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 20 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
  • Y 101-150 gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Ym Mlwyddyn 2, gallwch ddewis sefyll arholiad Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA), cymhwyster proffesiynol ar gyfer athrawon Saesneg fel iaith dramor.

Bydd siaradwyr gwadd yn cynnal gweithdai a seminarau.

Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael.

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.
**Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1-26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025.

Eich Profiad Iaith Saesneg a'r Cyfryngau

Trwy gydol eich gradd bydd gennych tiwtor personol ar gyfer unrhyw gefnogaeth fugeiliol ac academaidd.

Yn ystod yr ail flwyddyn, i wella'ch profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa, mae gennych opsiwn i astudio semester dramor yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.

Os yw'n well gennych aros yn agosach at adref, mae digonedd o gyfleoedd, gyda Rhaglenni Lleoliad Gwaith Prifysgol Abertawe'n cynnig tair rhaglen lleoliad gwaith: Wythnos o Waith (WoW), Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) a Lleoliadau Gwaith wedi'u hariannu gan Brifysgolion Santander.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe’n darparu rhwydwaith ar gyfer cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr, yn amrywio o sgyrsiau a gweithdai cyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad y myfyrwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Iaith Saesneg a'r Cyfryngau

Mae myfyrwyr y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu gwych, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac maent mewn swyddi ledled y byd mewn ystod o sectorau.

  • Newyddiaduriaeth
  • Y Cyfryngau
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Marchnata digidol
  • Darlledu
  • Cyhoeddi ar y teledu a'r radio

Modiwlau

Ym mlwyddyn un, byddwch yn astudio egwyddorion sylfaenol ieithyddiaeth cyn archwilio mythau a gwirioneddau poblogaidd am iaith a sut mae iaith yn cael ei chynrychioli yn yr ymennydd. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i agweddau ar gyfathrebu â'r cyfryngau.

Iaith Saesneg a'r Cyfryngau

Iaith Saesneg a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn Dramor

Iaith Saesneg a'r Cyfryngau gyda Blwyddyn mewn Diwydiant