Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, BA (Anrh)

Dysga am Ddamcaniaeth ac Ymarfer Addysgu’r Iaith Saesneg

Header

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn ymdrin â phopeth y mae angen i chi ei wybod er mwyn gallu addysgu Saesneg fel iaith dramor.

Mae addysgu Saesneg yn ffordd wych o weld y byd, a bydd yn eich galluogi i addysgu mewn pob math o amgylchedd.

Yn ystod eich gradd tair blynedd, byddwch yn dysgu am ddamcaniaeth ac ymarfer, methodoleg addysgu iaith, geirfa, gramadeg ac ystyr, seicoieithyddiaeth, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, a dadansoddi sgyrsiau. Bydd ein gradd Saesneg a TESOL yn eich rhoi mewn safle gwych i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd.

Pam Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar ein Campws Parc Singleton hardd, yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr,

Rhestrir Saesneg yn Abertawe:

  • 3ydd yn y DU (NSS 2025)*
  • 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 15 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • 101-150 uchaf yn y byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Ym Mlwyddyn 2, gallwch ddewis sefyll arholiad Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Iaith Saesneg i Oedolion (CELTA), cymhwyster proffesiynol ar gyfer athrawon Saesneg fel iaith dramor.

Byddwch yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau rhaglennu drwy ddeunyddiau dysgu iaith â chymorth cyfrifiadur, a chewch eich hyfforddi mewn dulliau ymchwil, gan gynnwys dadansoddi ac adrodd ar ddata.

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Trwy gydol eich gradd bydd gennych tiwtor personol ar gyfer unrhyw gefnogaeth fugeiliol ac academaidd.

Yn ystod ail flwyddyn eich gradd, i wella'ch profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa, mae gennych opsiwn i astudio semester dramor yn naill ai UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.

Os yw'n well gennych aros yn agosach at adref, mae digonedd o gyfleoedd, gyda Rhaglenni Lleoliad Gwaith Prifysgol Abertawe'n cynnig tair rhaglen lleoliad gwaith: Wythnos o Waith (WoW), Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) a Lleoliadau Gwaith wedi'u hariannu gan Brifysgolion Santander.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe’n darparu rhwydwaith ar gyfer cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr, yn amrywio o sgyrsiau a gweithdai cyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad y myfyrwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Mae myfyrwyr y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu gwych, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn mynd i yrfaoedd mewn ystod eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg ac addysgu
  • Marchnata a chyfryngau cymdeithasol
  • Gweinyddu prosiectau
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Busnes
  • Y gyfraith
  • Therapi Lleferydd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill gyda Blwyddyn Dramor

Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill gyda Blwyddyn mewn Diwydiant