Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, BSc (Anrh)

Dysga sut i gynnal dadansoddiad iaith mewn ystod o gyd-destunau

header

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ieithyddiaeth Gymhwysol yn ddisgyblaeth fwyfwy perthnasol a dylanwadol. Dyma'r rhaglen israddedig gyntaf o'i math, a bydd yn addysgu myfyrwyr i ddadansoddi iaith mewn cyd-destunau amrywiol o bwys, gan gynnwys: gofal iechyd; cyfathrebu; deallusrwydd dynol-peirianyddol; diwygio addysgol; llunio polisïau iaith; dadansoddi fforensig; diagnosis anhwylderau cyfathrebu a’u rheoli; cyfathrebu yn y cyfryngau cymdeithasol; a chymunedau amlieithog.

Pam Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol yn Abertawe?

Bydd myfyrwyr yn craffu ar strwythurau a seiniau Saesneg, yn archwilio'r prosesau mewnol sy'n tanategu cynhyrchu a deall iaith ac yn ymchwilio i achosion ac effeithiau dewis iaith. Mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant a phrofiad o weithio gydag ymarferwyr a phartneriaid proffesiynol a chaiff myfyrwyr gyfle i ddewis cyd-destun penodol i'w astudio a'i ddadansoddi’n fanwl. Mae iaith yn ffenomen gymhleth; drwy ddefnyddio dulliau ystadegol, cyfrifiadol a gwyddonol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddadansoddi samplau a defnydd iaith er mwyn echdynnu gwybodaeth sy'n hanfodol i ddeall a mynd i'r afael â heriau sy’n effeithio ar y byd heddiw.

Byddwch yn astudio ar ein Campws Parc Singleton, a leolir mewn parcdir godidog â golygfeydd ar draws Bae Abertawe, ar ymyl Penrhyn Gŵyr. Mae parch mawr gan fyfyrwyr a chyflogwyr at ein hadran Saesneg, gan gynnwys Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Iaith Saesneg.

Rhestrir Ieithyddiaeth yn Abertawe:

  • 2il yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2026)
  • 3ydd yn y DU ar gyfer Profiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 3ydd yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 5 uchaf yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • 100% Boddhad cyffredinol myfyrwyr (Q28, NSS 2025)

Saesneg yn Abertawe:

  • 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 15 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • 101-150 uchaf yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025) 
  • 3ydd yng DU (NSS 2025)*

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol

Drwy gydol eich gradd, bydd gennych tiwtor personol a fydd yn darparu cymorth bugeiliol ac academaidd i chi.

Yn ogystal â'r cyfleodd lleoliad gwaith sydd ar gael drwy'r rhaglen, mae Rhaglenni Lleoliad Gwaith Prifysgol Abertawe'n cynnig tair rhaglen lleoliad gwaith: Wythnos o Waith (WoW); Rhaglen Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) a Lleoliadau Gwaith a ariennir gan Brifysgolion Santander.

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe’n darparu rhwydwaith ar gyfer cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr - yn amrywio o sgyrsiau a gweithdai cyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad myfyrwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol

Bydd myfyrwyr y cwrs hwn yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau gryf o ran ymchwil, dadansoddi a datrys problemau.

Bydd ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Therapi iaith a lleferydd
  • Gofal iechyd
  • Addysg ac addysgu

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

ABB-BBC

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol gyda Blwyddyn Dramor

Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant