Trosolwg o'r Cwrs
Gyda'r BA Ieithoedd Modern, gallwch chi deilwra eich taith ieithyddol gydag amrywiaeth o ieithoedd ar gynnig. Gallwch chi astudio hyd at ddwy brif iaith, i lefelau amrywiol o gymhwysedd, sy'n cynnwys Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin a Sbaeneg. Yn ogystal â'ch modiwlau yn eich prif iaith, mae ein llwybrau unigryw'n eich galluogi i ddewis modiwlau mewn astudiaethau diwylliannol, addysg a chyfieithu.
Efallai yr hoffech ehangu eich galluoedd ieithyddol drwy astudio modiwlau rhagarweiniol mewn Catalaneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin neu Bortiwgaleg (caiff Catalaneg a Phortiwgaleg eu cynnig ar sail dreigl). Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael y cyfle i ddewis modiwlau o unrhyw un o'r llwybrau hyn, gan eich galluogi i addasu eich profiad dysgu i gyd-fynd â‘ch diddordebau a'ch uchelgeisiau.
Gellir astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ar y lefelau canlynol ac yn y cyfuniadau canlynol:
- Os oes gennych Safon Uwch neu gymhwyster/profiad cyfwerth yn nwy o'r ieithoedd hyn, gallwch barhau i astudio'r ddwy iaith gyda ni ar lefel uwch.
- Os oes gennych Safon Uwch neu gymhwyster/profiad cyfwerth yn un o'r ieithoedd hyn, gallwch naill ai ganolbwyntio'n llwyr ar yr iaith honno neu ddysgu iaith arall ar yr un pryd, trwy ein llwybrau iaith pwrpasol i ddechreuwyr.
Os nad oes gennych iaith ar Safon Uwch, ac efallai nad oes gennych iaith ar lefel TGAU, gallwch ganolbwyntio ar un iaith i ddechreuwyr (Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg) drwy gydol eich gradd. Gallwch hefyd astudio ail iaith i ddechreuwyr (Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin neu Sbaeneg) yn ystod ail flwyddyn eich gradd. Bydd hyn yn eich galluogi i raddio â rhuglder uwch (C1) yn eich iaith gyntaf, a rhuglder canolradd-uwch (B2-C1) yn eich ail iaith.