Trosolwg o'r Cwrs
Gwnewch y gorau o'ch diddordeb yn y gorffennol drwy astudio Ieithoedd Modern a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn meithrin sgiliau sy'n werthfawr i gyflogwyr ar draws ystod o sectorau, wrth archwilio'r cyflwr dynol o'r Oesoedd Canol i'r presennol.
Mae Ieithoedd Modern a Hanes yn archwilio pynciau gan gynnwys hanes menywod a rhywedd, hanes cymdeithasol modern Prydain a hanes crefydd, iechyd a meddygaeth, sy'n ymestyn o'r Oesoedd Canol i'r oes fodern. Byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth gyfoethog eich dewis iaith (Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg), yn ogystal â modiwlau mewn astudiaethau diwylliannol, ffilm, hanes, cyfieithu ac addysgu ieithoedd.
Mae astudio'r cwrs gradd hwn yn agor drysau i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaoedd cyffrous drwy eich helpu chi i ddatblygu sgiliau sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr.
Gellir astudio'r cwrs mewn tair blynedd neu gallwch chi ymestyn eich astudiaethau am flwyddyn ychwanegol drwy ymgymryd â Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant*. Bydd yr opsiynau ychwanegol hyn yn caniatáu i chi wella ymhellach eich profiad fel myfyriwr drwy roi dealltwriaeth unigryw i chi o fyd diwylliant a chyfleoedd sy'n seiliedig ar sgiliau.