Trosolwg o'r Cwrs
Llenyddiaeth Saesneg yw un o'r disgyblaethau mwyaf amrywiol, ysgogol a heriol a gynigir gennym a bydd y cwrs gradd BA pedair blynedd hwn yn meithrin sensitifrwydd tuag at iaith ac yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau gyrfa cyffrous drwy eich helpu i feithrin sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Ar ôl symud ymlaen o'r flwyddyn sylfaen, cewch gyfle i astudio dros fil o flynyddoedd o lenyddiaeth, o Beowulf i'r presennol.
Mae ein cwrs yn cwmpasu llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang gan gynnwys llenyddiaeth y Dadeni, ffuglen Gothig a phoblogaidd, llenyddiaeth y 19eg ganrif a ffuglen gyfoes. Ymhlith y pynciau eraill mae rhywedd a diwylliant ac ysgrifennu creadigol a phroffesiynol.
Cewch gyfle i dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.