Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students working together

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ein cwrs gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, byddwch yn dysgu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu a fydd yn eich paratoi i ddilyn gyrfa fel awdur, gan gynnwys nofelau, dramâu, barddoniaeth, sgriptiau ffilmiau ac ysgrifennu ffeithiol.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o arddulliau a genres, yn ogystal ag astudio hanes, traddodiadau a theori Llenyddiaeth Saesneg.

Cewch eich addysgu gan ysgrifenwyr profiadol y mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi, ei ddarlledu a'i berfformio'n eang, yn ogystal â staff academaidd sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol am eu hymchwil.

Gallwch hefyd dreulio semester yn astudio yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr.

Pam Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe?

Mae pwnc  Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Mae Saesneg yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 20 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
  • Ymhlith 101-150 uchaf yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Abertawe yw man geni Dylan Thomas, un o feirdd telynegol mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.

Bydd gennych hefyd opsiwn o dreulio semester yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.

Eich Profiad Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol

Gallwch deilwra eich gradd yn unol â'ch diddordebau eich hun, gan ddysgu sut i ysgrifennu nofelau, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y sgrin a darlledu, ysgrifennu straeon byrion a deunydd ffeithiol, barddoni a dilyn gyrfa ysgrifennu, yn ogystal ag astudio arddulliau a genres.

Mae'r cwrs Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol hefyd yn eich galluogi i astudio amrywiaeth o bynciau Llenyddiaeth Saesneg gan gynnwys ffuglen Gothig a phoblogaidd, rhywedd a diwylliant, llenyddiaeth y Dadeni, llenyddiaeth genedlaethol a byd-eang, ac ysgrifennu cyfoes.

Caiff y cwrs ei addysgu drwy weithdai ysgrifennu creadigol a chewch gyfle i gyflawni prosiect personol mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Cyfleoedd Cyflogaeth Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn fel arfer yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu rhagorol a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau mewn amrywiaeth o fformatau, ynghyd â sgiliau ymchwilio, dadansoddi a datrys problemau cadarn.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Addysg
  • Newyddiaduraeth
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Gweinyddu prosiectau
  • Gwasanaethau Cyhoeddus

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn cyflwyno llenyddiaeth Saesneg i chi, yn ogystal ag arddulliau a genres ysgrifennu.

Yna byddwch yn dewis eich llwybr gyda modiwlau sy'n gweddu i'ch diddordebau eich hun.  Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i ganolbwyntio'n fanwl ar eich dewis brosiect ymchwil er mwyn ysgrifennu eich traethawd hir terfynol.  

Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol

Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Dramor

Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant