Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Archwilia amrywiaeth o bynciau Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Cyfoes

students working together

Trosolwg o'r Cwrs

Nawr, mwy nag erioed, mae angen ysgrifenwyr ar y byd. Pobl sy'n gallu cyfleu syniadau'n eglur, yn graff ac yn fyfyriol. Mae ein BA mewn Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg yn cynnig profiad academaidd cyfoethog a neilltuol sy'n seiliedig ar bedwar piler allweddol: darllen, ysgrifennu, myfyrio ac ailysgrifennu. Mae'r radd anrhydedd sengl hon wedi'i chynllunio i'ch datblygu fel ysgrifennwr, meddyliwr beirniadol ac ymarferydd proffesiynol sy'n barod am amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Pam Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae pwnc  Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi'i leoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr.

Mae Saesneg yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • 11eg yn y DU am Effaith Ymchwil (REF2021)
  • Ymhlith y 15 uchaf yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Ymhlith 101-150 uchaf yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)
  • 18th  yn y DU am bositifrwydd cyffredinol (NSS 2025) - asesu o dan 'llenyddiaeth Saesneg'

Abertawe yw man geni Dylan Thomas, un o feirdd telynegol mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif, a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau gyda Chanolfan Dylan Thomas a National Theatre Wales.

Bydd gennych hefyd opsiwn o dreulio semester yn UDA, Canada, Tsieina, Hong Kong neu Singapôr, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.   

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 , o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide. 

Eich profiad o Ysgrifennu Creadigol

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch yn archwilio ystyr bod yn rhan o'r ddynol ryw – gan astudio amrywiaeth o bynciau ym maes y dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol er mwyn cyflwyno astudiaethau ar lefel prifysgol i chi.

Byddwch yn dechrau'r cwrs gradd yn eich ail flwyddyn, pan fyddwch yn gallu teilwra eich gradd yn unol â'ch diddordebau eich hun, gan ddysgu sut i ysgrifennu nofelau, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y sgrin a darlledu, ysgrifennu straeon byrion a deunydd ffeithiol, barddoni a dilyn gyrfa ysgrifennu, yn ogystal ag astudio arddulliau a genres.

Wrth wraidd ein rhaglen y mae'r cred bod ysgrifennu da yn seiliedig ar ddarllen da. Byddwch yn dysgu sut i ddarllen yn astud ac yn ddadansoddol drwy astudio amrywiaeth o fodiwlau Llenyddiaeth Saesneg sydd wedi'u dethol yn ofalus, a byddwch yn dysgu dadansoddi sut mae testunau'n dylanwadu ar genedlaethau dilynol o ysgrifenwyr drwy ddefnydd arloesol o syniadau ac arddull. Mae'r ymarfer darllen yn ofalus hwn yn llywio gwaith yn ein modiwlau Ysgrifennu Creadigol yn uniongyrchol, gan roi cyfle i chi arbrofi â thechnegau a dynnir o ysgrifenwyr sefydledig, gan ddatblygu eich llais eich hun mewn amrywiaeth o genres.

Bydd gennych gyfle i greu gwaith gwreiddiol ym meysydd ffuglen, barddoniaeth, gwaith ffeithiol creadigol, ysgrifennu i'r sgrîn a dramâu llwyfan, dan arweiniad awduron cyhoeddedig sydd â phroffiliau proffesiynol nodedig. Byddwch yn dysgu myfyrio ar eich gwaith eich hun, gan ddatblygu'r gallu i asesu ei effeithiolrwydd a nodi meysydd i'w datblygu, gan arwain at broses ailadroddus o ddychwelyd i'r testun i'w ailysgrifennu. Rydym yn trin ailysgrifennu fel elfen graidd o'r broses greadigol, hynny yw ail-lunio gwaith yn dilyn adborth cefnogol ac adeiladol gan diwtoriaid a chyd-fyfyrwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth gydag Ysgrifennu Creadigol

Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae ein rhaglen yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gyfoethogi’ch profiad. Gallech ddewis treulio semester neu flwyddyn lawn dramor, gan ehangu eich gorwelion diwylliannol a llenyddol, neu gallech dreulio blwyddyn mewn diwydiant i ddatblygu profiad proffesiynol a rhoi'ch sgiliau ar waith mewn amgylchedd gwaith. Mae'r opsiynau hyn yn eich galluogi i gynyddu eich datblygiad academaidd a phersonol yn ogystal â'ch cyflogadwyedd.

Mae rhai o'n myfyrwyr ysgrifennu creadigol wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith gyda chyhoeddwyr annibynnol yng Nghymru megis Parthian, Seren, Honno, naill ai drwy gyswllt uniongyrchol â'r cyhoeddwr neu drwy raglenni megis lleoliadau SPIN. Mae eraill wedi elwa o'r cyfle i gael profiad fel 'extras' ar set ffilmio a dysgu beth sydd ynghlwm wrth gynhyrchu ffilm. Mae'r cyfleoedd hyn, sy'n codi o bryd i'w gilydd, yn rhoi profiad uniongyrchol hollbwysig o'r diwydiant i fyfyrwyr ond maent hefyd yn hynod werthfawr, nid yn unig am roi cipolwg ar y diwydiant, ond am y cymorth pan fydd myfyrwyr yn dechrau meddwl am gyflogaeth.

Mae graddedigion ein rhaglen yn gadael wedi datblygu set sgiliau amlbwrpas - manwl gywirdeb dadansoddol, meddylfryd dychmygus, y gallu i gyfathrebu’n ddarbwyllol a dealltwriaeth o'r gynulleidfa - sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn sawl sector. Boed yn dilyn gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol, megis cyhoeddi, ysgrifennu i'r sgrîn, gweinyddu'r celfyddydau neu newyddiaduraeth, neu ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, addysg neu waith gwleidyddol, byddwch wedi'ch paratoi'n dda i lwyddo. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CDD-DDD

Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol gyda Blwyddyn Sylfaen