Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfrywr

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Mae addysg yn faes astudio sy'n datblygu'n gyflym, sy'n seiliedig ar ddisgyblaethau seicoleg, athroniaeth, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl yn dysgu ac sut y mae strwythurau addysg yn meithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

Mae blwyddyn sylfaen y rhaglen pedair blynedd arloesol hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn mynd ymlaen i raglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Pam Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Wedi'ch lleoli ar gampws godidog Parc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, cewch y cyfle i wneud y canlynol:

  • Archwilio ymarfer addysgol mewn oes ddigidol, astudio technolegau dysgu digidol sydd ar flaen y gad o ran tueddiadau addysg;
  • Astudio polisi a gwleidyddiaeth byd addysg a dysgu sgiliau arwain a rheoli;
  • Meithrin dealltwriaeth o addysg mewn gwledydd eraill, amrywiaeth a llesiant mewn addysg, datblygiad plant a niwrowyddoniaeth addysgol.
  • Dysgu gan ddarlithwyr cymwys tu hwnt a fydd yn eich helpu i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu sgiliau ymarferol o ran arsylwi, dehongli, prosesu a chyflwyno gwybodaeth, y caiff pob un ohonynt eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Mae Addysg yn Abertawe:

  • Yn y 15 adran orau yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)

Eich Profiad Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Mae'r cwrs Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe yn radd hyblyg sy'n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol sy'n eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa ar gyfer y dyfodol tra'n datblygu eich diddordebau unigol.

Cewch gyfle i gwblhau lleoliadau gwaith mewn sefydliadau fel ysgolion, awdurdodau lleol, busnesau ac elusennau i wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Addysgu ysgol gynradd ac uwchradd
  • Addysgu blynyddoedd cynnar
  • Gweinyddu addysgol
  • Datblygu cymunedol
  • Cyhoeddi addysgol
  • Astudiaethau ôl-raddedig

Bydd angen cymhwyster Addysg Gychwynnol Athrawon neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion ychwanegol arnoch i fod yn athro/athrawes.

Modiwlau

Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch chi'n dewis modiwlau a fydd yn cynnig sgiliau astudio allweddol i chi, gwybodaeth am y pwnc, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Yna byddwch chi'n symud ymlaen i’ch gradd.

Yn ystod y tair blynedd ddilynol byddwch yn astudio meysydd a fydd yn cynnwys addysg gyfoes; tarddiad a theori ymchwil addysgol ac addysg mewn gwledydd eraill; datblygiad plant; diogelu a hyrwyddo llesiant mewn addysg; niwrowyddoniaeth addysgol a gwahaniaeth ac amrywiaeth mewn addysg.

Byddwch yn cwblhau traethawd hir annibynnol yn seiliedig ar ymchwill yn y flwyddyn olaf, gan ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i fod yn addysgwr effeithiol o ran ymchwil.

Addysg gyda Blwyddyn Sylfaen