Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig ymagwedd gyfannol at ddeall plant o enedigaeth hyd at wyth mlwydd oed. Mae’n nodi pwysigrwydd plentyndod cynnar fel cyfnod sylweddol ym mywyd sy’n sail i ddysgu gydol oes, lle gellir ystyried plant yn aelodau galluog a medrus o gymdeithas. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Ar y cwrs, hwn bydd myfyrwyr yn treulio 700 awr (tua 20 wythnos) ar leoliad gwaith mewn lleoliadau plentyndod cynnar ac mae gofyniad arnynt i ddangos gallu mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a osodwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru. Bydd graddedigion yn cymhwyso gan ennill cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a ddyfernir gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Pam Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar yn Abertawe:

  • Yn y 3ydd safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)
  • Yn y 5ed safle yn y DU yn gyffredinol (Complete University Guide 2025)

Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant a chydnabod eu bod yn ganolbwynt teuluoedd, cymunedau a’r byd economaidd-gymdeithasol ehangach. Byddwch yn astudio amrywiaeth, yr hyn sy’n unigryw am bob plentyn a sut gall gweithwyr proffesiynol ym maes Plentyndod Cynnar gefnogi plant mewn sefyllfaoedd anodd, megis y rhai hynny sy’n dioddef o drawma ac sydd mewn argyfwng cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae gan Astudiaethau Plentyndod Cynnar broffil gynyddol uchel yn rhyngwladol ar lefel lywodraethol ac o fewn sefydliadau rhyngwladol, lle mae hawliau plant, iechyd, lles a phroblemau cymdeithasol wedi denu llawer o sylw o ganlyniad i symudiadau byd-eang diweddar a’r argyfwng ffoaduriaid. Nod y cwrs hwn yw darparu addysg a hyfforddiant penodol i’r rhai hynny sy’n dymuno gweithio gyda babanod.

Eich Profiad Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Byddwch yn dechrau ar eich cwrs gradd yn eich ail flwyddyn. Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferwr y Blynyddoedd Cynnar a blwyddyn sylfaen yn Abertawe yn radd hyblyg sy’n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau arbenigol, gan eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa yn y dyfodol wrth ddatblygu eich diddordebau personol. Byddwch yn dysgu am y ffyrdd gorau o gefnogi plant, teuluoedd a chysylltiadau cymunedol.

Bydd gennych y cyfle i ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn sefydliadau megis ysgolion, awdurdodau lleol, busnesau ac elusennau i wella eich profiad myfyriwr a’ch rhagolygon gyrfa.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr arloesol y mae ganddynt gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf a byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni haf byd-eang gan gynnwys teithiau astudio a diwylliannol am bythefnos yn Tsieina, Vietnam a Siam.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen

Bydd ein graddedigion yn cymhwyso gan ennill cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar a ddyfernir gan Ofal Cymdeithasol Cymru.

Gall gyrfaoedd gynnwys:

  • Addysgu'r Blynyddoedd Cynnar
  • Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd a Chymunedau
  • Cynorthwywyr Addysgu
  • Astudio ôl-raddedig

Bydd angen astudiaethau ychwanegol ar gyfer rhai gyrfaoedd, megis cymhwyster Addysg Gychwynnol Athrawon (ITE) neu Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (PGCE) er mwyn bod yn athro neu’n athrawes.

Modiwlau

Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch chi'n dewis modiwlau a fydd yn cynnig sgiliau astudio allweddol i chi, gwybodaeth am y pwnc, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Yna byddwch chi'n symud ymlaen i’ch gradd.

Yn ystod y tair blynedd dilynol, byddwch yn astudio meysydd sy'n cynnwys addysg gyfoes; tarddiad a damcaniaeth ymchwil addysgol, ac addysg mewn gwledydd eraill; datblygiad plentyn; amddiffyn a hyrwyddo lles mewn addysg; niwrowyddoniaeth addysgol a gwahaniaeth ac amrywiaeth mewn addysg.

Byddwch yn cwblhau traethawd estynedig ar sail ymchwil annibynnol yn y flwyddyn olaf, gan ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i fod yn addysgwr effeithiol o ran ymchwil.

Gweld Rhestr Ddarllen Astudiaethau Plentyndod Cynnar

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar gyda Blwyddyn Sylfaen