Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd ran-amser yn y Dyniaethau yn unigryw yng Nghymru, gan mai dyma’r unig radd sydd wedi'i hanelu'n benodol at ddysgwyr sy'n oedolion gyda'r rhan fwyaf o'r addysgu yn cael ei wneud yn y dosbarth. Mae gennym grŵp amrywiol o fyfyrwyr ac mae croeso i bawb, beth bynnag yw eich oed neu gefndir. Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ymuno â ni.
Mae ein haddysgu a'n hymchwil cyffrous ac arloesol yn cyfoethogi ein cyfraniad at gymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang ac yn helpu i greu profiad dysgu rhagorol i fyfyrwyr. Mae ein tîm addysgu yn cynnwys staff academaidd sy'n ymroddedig i'ch cefnogi ar eich taith ddysgu, gan astudio ystod eang o bynciau ym maes y Dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol ar y campws neu yn y gymuned.
Mae'r rhaglen yn arloesol, yn ddynamig ac yn hyblyg ac yn rhoi cyfle i chi feithrin y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad a fydd yn agor drysau i ddyfodol disglair mewn nifer o rolau heriol a gwobrwyol mewn amrywiaeth eang o sectorau a/neu astudio ôl-raddedig.