Blwyddyn Sylfaen y Dyniaethau
Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn y Dyniaethau’n arfogi myfyrwyr â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i fod yn llwyddiannus ar ein rhaglenni gradd y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol nodedig. Mae’n ddelfrydol os oes angen rhagor o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl bwlch amser. Ar y Flwyddyn Sylfaen, cewch eich cyflwyno i addysg uwch wrth i chi ddysgu am eich pwnc, y dyniaethau, a’r hyn yw bod yn fyfyriwr yn Abertawe. Cewch eich cefnogi hefyd i ddatblygu sgiliau astudio mewn meysydd gan gynnwys ysgrifennu academaidd, cymryd nodiadau ac ymgymryd â gwaith ymchwil fel eich bod yn barod ar gyfer yr heriau cyffrous sydd o’ch blaen ar y llwybr gradd o’ch dewis.
BA Gwareiddiad Clasurol gyda Blwyddyn Sylfaen
BA Astudiaethau'r Oesoedd Canol gyda Blwyddyn Sylfaen
Cysylltu â'r Swyddfa Derbyn
Swyddfa Derbyn Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Adeilad Keir Hardie
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe, SA2 8PP
Cymru, y Deyrnas Gyfunol
Rhif ffôn: 01792 295111
E-bost: astudio@abertawe.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau penodol, cysylltwch â Dr Ryan Sweet