Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein gradd Addysg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant arbenigol i chi ar y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, ynghyd â sylfaen ragorol mewn polisi addysg, datblygiad plant a niwrowyddoniaeth addysgol.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o ymarfer addysgol yn yr oes ddigidol, addysg mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, arweinyddiaeth a rheolaeth, ac amrywiaeth a lles ym maes addysg.
Byddwch yn dysgu am y prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cofio ac iaith, a datblygu sylfaen gadarn mewn seicoleg wybyddol, cymdeithasol, datblygiadol, clinigol a biolegol.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwilio, beirniadol a chyfathrebu rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o rifedd a gallu TGCh.