Trosolwg o'r Cwrs
Athroniaeth yw cariad at ddoethineb - y chwiliad am wirionedd a dealltwriaeth, boed amdanon ni ein hunain, cymdeithas, y byd neu realiti ei hun. Mae'n ddisgyblaeth academaidd eang iawn, sy'n cynnwys astudio moeseg a moesoldeb, gwleidyddiaeth, natur ddynol, gwybodaeth a'r bydysawd.
Bydd rhaglen y BA Athroniaeth yn Abertawe yn rhoi i chi gyflwyniad i ddamcaniaethau a dadleuon athronyddol o bwys ar draws traddodiadau, diwylliannau ac ysgolion meddwl gwahanol. Bydd yn eich galluogi i fyfyrio ar gwestiynau sydd o bwys sylfaenol ("Sut dylen ni fyw ein bywydau? Sut olwg sydd ar gymdeithas gyfiawn? Sut gallwn wybod beth sy'n bodoli?), i feddwl yn greadigol ac yn rhesymegol ac i drafod materion mewn modd eglur a darbwyllol.
Un o’r elfennau pwysig mae'r rhaglen yn canolbwyntio arnynt yw cymhwyso athroniaeth i broblemau ymarferol a chyfoes. Er enghraifft, beth yw effaith technoleg ar les a beth yw ystyr bod yn ddynol? Sut y dylid rheoleiddio iaith sarhaus neu iaith gasineb? O ganlyniad, mae astudio athroniaeth yn ymwneud â deall y byd yn ogystal â meddwl sut gallwn ei newid er gwell.
Drwy gydol y radd, byddwch yn datblygu sgiliau meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, ynghyd â'r gallu i fyfyrio'n foesegol ac yn arloesol. Byddwch yn dysgu sut i gysylltu syniadau a delfrydau haniaethol â phroblemau a chwestiynau ymarferol. Wrth wraidd y radd y mae pwyslais ar sicrhau y gallwch nodi, asesu, datblygu a chyfleu dadleuon a damcaniaethau. Mae hyn yn cynnwys rhesymu cysyniadol a dadansoddi gwybodaeth cymhleth, yn ogystal â gwerthfawrogiad o safbwyntiau a phrofiadau pobl mewn cyd-destunau hanesyddol a daearyddol amrywiol.