Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students working together

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Gall ein gradd BA (Anrh.) Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol drwy eich helpu i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i Addysg Uwch, yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Mae'r radd ei hun yn cynnwys archwilio gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, a damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol.

Mae gennych gyfle ar gyfer interniaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ac astudio modiwl Astudiaethau Seneddol Prydeinig, a addysgir yn rhannol gan staff arbenigol o'r Senedd.

Pam Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr.

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe:

  • 4ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)
  • 8ydd yn y DU am Gymorth Academaidd (NSS 2024*) 
  • Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen yn Prifysgol Abertawe Ymhlith y 250 gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Byddwch yn astudio yn un o adrannau dethol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin.

Cewch ddewis modiwl sy'n cynnwys interniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithio'n agos gyda gweinidogion y Cynulliad. Mae mynediad i'r modiwl hwn ar sail gystadleuol.

Gallwch hefyd dreulio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu Unol Daleithiau America, gan wella'ch profiad  fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa fwy fyth.

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 15 i 16 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Eich Profiad Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch chi'n dysgu'r sgiliau allweddol y mae eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd wrth ddatblygu gwybodaeth am eich maes pwnc a sut mae'n perthyn i'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol.

Byddwch yn dechrau'ch cwrs yn eich ail flwyddyn, pan gynigiwn gynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lunio'ch gradd mewn Gwleidyddiaeth i fodloni'ch diddordebau.

Mae'r pynciau'n cynnwys gwleidyddiaeth Brydeinig ac Ewropeaidd, polisi cyhoeddus, damcaniaeth ac athroniaeth wleidyddol, materion etholiadol, democratiaeth, a heddwch a gwrthdaro rhyngwladol.

Caiff ein haddysgu ei gyfeirio gan ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, a gallwch fynychu seminarau a drefnir drwy ein rhaglen siaradwr gwadd.

Bydd gennych tiwtor personol ar gyfer cefnogaeth fugeiliol ac academaidd.

 

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae myfyrwyr y cwrs hwn fel arfer yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifennu gwych, a byddwch yn dysgu sut i gyflwyno'ch syniadau mewn ystod o ffyrdd, yn ogystal â sgiliau ymchwil, dadansoddi a datrys problemau cryf.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac maent mewn swyddi ledled y byd.

Mae ganddynt yrfaoedd mewn:

  • Addysg
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes
  • Y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y gyfraith
  • Gwasanaethau cyhoeddus

Modiwlau

Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch chi'n dewis modiwlau a fydd yn cynnig sgiliau astudio allweddol i chi, gwybodaeth am y pwnc, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Yna byddwch chi'n symud ymlaen i’ch gradd.

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi cyflwyniad i chi i wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol. Yna byddwch yn dewis eich llwybr, gyda modiwlau i weddu'ch diddordebau, cyn canolbwyntio'n fanwl ar eich prosiect ymchwil i lunio'ch traethawd hir terfynol.

Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen