Trosolwg o'r Cwrs
Datblygwch y sgiliau, yr wybodaeth a'r adnoddau deallusol i allu sbarduno newid a gwneud gwahaniaeth yn y byd o'ch cwmpas gyda'r BSc mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Heriau Byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar y radd hon, byddwch yn archwilio problemau a heriau cymdeithasol sy'n croesi ffiniau gwledydd, gan feithrin y sgiliau angenrheidiol i ddatblygu a hyrwyddo atebion arloesol a chynaliadwy sydd â'r potensial i wella bywydau pobl.
Nod y rhaglen yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ac mae ei strwythur yn seiliedig ar thema heriau sy'n archwilio materion hollbwysig megis newid yn yr hinsawdd, datblygu cynaliadwy, mudo, terfysgaeth, anghydraddoldeb a thlodi, a sut maent yn effeithio ar ein byd.
Bydd y radd yn rhoi gwybodaeth i chi mewn cyfuniad o ddisgyblaethau; gwleidyddiaeth, athroniaeth, astudiaethau datblygu, polisi cyhoeddus, y gyfraith, rheoli a'r cyfryngau, i gyd wedi'u cydblethu i'ch galluogi i feithrin dealltwriaeth o faterion byd-eang allweddol, prosesau llunio penderfyniad a'r dulliau i ymchwilio i atebion newydd posib ac eirioli drostynt.
Cynigir y rhaglen yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ond fe'i dyluniwyd yn benodol i fanteisio ar y portffolio o fodiwlau ac arbenigedd a gynigir ar draws Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol gyfan a chyflwynir yr addysgu ar gampysau Singleton a'r Bae. Felly, mae'n unigryw gan ei bod yn cynnig ymagwedd wirioneddol ryngddisgyblaethol a chyfunol at yr heriau mae arweinwyr cymdeithas heddiw yn eu hwynebu.