Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Parliament talking

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Wrth i dechnoleg, trafnidiaeth ac economi ryngwladol gymhleth wneud ein byd yn llai, mae gwerth cydberthnasau heddychlon a chydweithredol rhwng gwledydd yn fwyfwy pwysig.

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe:

  • 4ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025) 
  • 8ydd  yn y DU am Gymorth Academaidd (NSS 2024*) 
  • 92% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)

Mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe yn y safle canlynol: 

  • Ymysg y 15 cwrs gorau o’i fath yn y DU (Guardian University Guide 2025)

Mae cysylltiadau rhyngwladol yn agwedd hanfodol ar ddinasyddiaeth mewn cymdeithas fyd-eang, ac mae ein cwrs gradd tair blynedd BA Cysylltiadau Rhyngwladol yn un o'r rhaglenni gradd pwysicaf a gynigir gennym.

Mae'r maes astudio diddorol hwn yn archwilio globaleiddio a sefydliadau byd-eang, datblygu a hawliau dynol, gwleidyddiaeth ryngwladol a rhanbarthol, heddwch a gwrthdaro, economi wleidyddol, astudiaethau diogelwch ac astudiaethau strategol, a byddwch yn dysgu sut mae grym, sefydliadau a chyfreithiau yn effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd.

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 15 i 16 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o’n cymharu ni â phrifysgoloion eraill yn y Times Good University Guide

Pam Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor yn Abertawe?

Wedi'i lleoli ar gampws hyfryd Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn astudio yn un o adrannau dethol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin.

Cewch ddewis modiwl sy'n cynnwys interniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithio'n agos gyda gweinidogion y Cynulliad.

Gallwch hefyd gael semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA, gan wella eich profiad myfyriwr a rhagolygon gyrfa ymhellach.

92% o raddedigion mewn cyflogaeth a/neu'n astudio, neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill, megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2023)

 

Eich Profiad Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor

Yn ystod eich blwyddyn sylfaen, byddwch yn archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol – gan astudio ystod o bynciau’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol i’ch cyflwyno i astudio ar lefel prifysgol.

Byddwch yn dechrau ar y radd Cysylltiadau Rhyngwladol yn eich ail flwyddyn, gan gynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol i chi sy'n eich galluogi i deilwra eich nodau gyrfa yn y dyfodol tra'n datblygu eich diddordebau unigol.

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr arloesol sydd â chysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol cryf. Bydd gennych yr opsiwn cystadleuol yn semester un (ar gael i 20 o fyfyrwyr) o wneud modiwl interniaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithio'n agos gydag AC am ddiwrnod yr wythnos. Byddwch yn gallu treulio semester dramor yn Hong Kong, Singapôr neu UDA yn ystod ail flwyddyn eich astudiaeth i wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa. Yn eich blwyddyn olaf mae gennych gyfle amhrisiadwy i ddewis lle ar Gynllun Lleoli Cynulliad Cymru.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor

Mae ein graddedigion yn cael eu cyflogi ledled y byd ac yn dechrau gyrfaoedd gan gynnwys:

  • Addysg
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes
  • Cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Y gyfraith a gwasanaethau cyhoeddus

Mae ein myfyrwyr hefyd wedi cael gwaith yn gweithio i sefydliadau fel:

  • Prosiectau Fforwm San Steffan
  • Blaid Lafur
  • Price Waterhouse Coopers

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn eich cyflwyno chi i wleidyddiaeth a pherthnasoedd rhyngwladol.

Yna byddwch yn dewis eich llwybr gyda modiwlau sy'n addas i'ch diddordebau chi, cyn canolbwyntio'n fanwl ar eich prosiect ymchwil a ddewisir i lunio'ch traethawd hir terfynol.

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Dramor