Gofal Mamolaeth, Tystysgrif Addysg Uwch

Cydnabyddir gan UNICEF UK

matcare

Trosolwg o'r Cwrs

Rydym wedi dylunio'r Dystysgrif Addysg Uwch blwyddyn arloesol hon ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn mamolaeth neu ofal iechyd neu ar gyfer y rhai sy'n dymuno cydgrynhoi eu sgiliau presennol yn y sector hwn. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i arfogi myfyrwyr â'r offer sydd eu hangen i lwyddo ar unrhyw siwrnai a ddewisant.

Os ydych chi'n gweithio ym maes gwasanaethau mamolaeth ar hyn o bryd, mae hon yn ffordd dda o wella eich ymarfer a'ch sgiliau proffesiynol.

Os ydych chi neu os hoffech ddod yn doula hunangyflogedig, byddwch hefyd yn dysgu sgiliau datblygu busnes gwerthfawr gan gynnwys cynllunio ariannol a chofnodion, materion treth a marchnata.

Mae yna hefyd raglen BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mlwyddyn dau.

Gyda ffocws cryf ar hunanddatblygiad, hunanymwybyddiaeth a sgiliau cyfannol, byddwch yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o agweddau allweddol ar wasanaethau ffisioleg, teulu, cymdeithas, cyfathrebu, diwylliant, iechyd a gofal mamolaeth yn y DU.

Pam Astudio Gofal Mamolaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn astudio mewn adran sydd ag enw da rhyngwladol, ac mae'r cwrs hwn wedi'i gydnabod gan UNICEF UK, sydd wedi dyfarnu statws Menter Cyfeillgar i Fabanod Lefel 1 iddo.

Mae gan ein tîm Bydwreigiaeth ac Iechyd Atgynhyrchiol gyfoeth o arbenigedd ym maes gofal mamolaeth a rhoddir ffocws cryf ar rymuso merched a theuluoedd drwy gydol y beichiogrwydd, yr enedigaeth a chamau cynnar y broses rianta.

Mae llawer o aelodau'r tîm yn gysylltiedig ag ymchwil mamolaeth ac fe'u hysgogir i geisio gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o gyrff, profiadau ac anghenion merched wrth iddynt ddod yn famau.

Eich Profiad ym maes Gofal Mamolaeth

Bydd ein dull dysgu cyfunol, sy'n cyfuno sesiynau a addysgir â dysgu hunangyfeiriedig, yn rhoi'r hyblygrwydd i chi drefnu eich astudiaethau o gwmpas eich gwaith arall neu ymrwymiadau teuluol.

Gyrfaoedd gofal mamolaeth

Bydd nifer o gyfleoedd gyrfa ar gael i chi ar ôl i chi gwblhau'r cwrs hwn.

  • Doula hunangyflogedig: Mae'r cynnydd ym mhoblogrwydd cymorth lleyg wrth eni plentyn a newidiadau diweddar i'r gofal a roddir gan fydwragedd yn golygu bod llawer o ferched erbyn hyn yn dewis cyflogi doula i roi cymorth un-i-un iddynt yn ystod eu beichiogrwydd, y broses esgor ac yn yr wythnosau ar ôl geni'r plentyn.
  • Gweithiwr Cymorth Mamolaeth/Cynorthwyydd Gofal Mamolaeth: fel Cynorthwyydd Gofal Mamolaeth, byddech yn cyflawni amrywiaeth o dasgau naill ai mewn ysbyty neu mewn lleoliad cymunedol, gan gynnwys cymorth bwydo ar y fron, asesiad sylfaenol o lesiant y fam, darparu gwybodaeth iechyd a hyrwyddo iechyd, a rhoi cymorth clinigol i'r bydwragedd a'r meddygon sy'n rhoi gofal mamolaeth.
  • Astudiaethau pellach: os hoffech ystyried parhau â'ch addysg, mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael i chi. Mae llawer o'n myfyrwyr llwyddiannus yn gwneud cais i astudio graddau Bydwreigiaeth, Nyrsio a Gofal Iechyd a Chymdeithasol.

Modiwlau

Bydd eich semester cyntaf yn eich cyflwyno i egwyddorion gofal mamolaeth a lles, gan gynnwys agweddau biolegol a seico-gymdeithasol o feichiogrwydd a magu plant.

Yn eich ail semester, byddwch yn dilyn modiwlau sy'n gysylltiedig â'ch uchelgais gyrfa, naill ai fel dwla neu'n gweithio fel rhan o dîm gofal mamolaeth.

Gofal Mamolaeth

Gofal Mamolaeth