Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol, BSc (Anrh)

Ar Agor i Ymgeiswyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

EMT

Trosolwg o'r Cwrs

I geisio am y cwrs yma rhaid eich bod chi’n aelod sy’n gwasanaethu gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn gweithio fel Technegydd Meddygol Argyfwng (EMT) ac yn cwrdd â’r anghenion mynediad fel yr amlinellwyd isod.**

Bydd ein diploma’n rhoi’r sgiliau hanfodol, gwybodaeth, a’r priodoleddau i ddechrau gyrfa cyffrous a gwobrwyol fel Parafeddyg Cofrestredig.

Byddwch yn dysgu am anatomi a ffiisioleg, prif system y corff a’r cyflyrau sy’n eu heffeithio hwy, sut mae asesu cleifion ac adnabod cyflyrau sy’n bygwth bywyd, a gweini cefnogaeth bywyd.

Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth o rôl a pherthnasedd yr ymchwilo, cysyniadau o ofal claf, ac egwyddorion cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â gofal iechyd.

2il yn y DU am Wyddoniaeth Barafeddygol (Complete University Guide 2024).

Pam Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol yn Abertawe?

Ni yw’r unig ddarparwr hyfforddiant Gwyddorau Parafeddyg yng Nghymru. Mae ein cwrs wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, gan eich galluogi i geisio am statws cofrestredig wedi i chi gwblhau’r cwrs. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno ymarfer fel parafeddyg.

Mae nifer o’n staff addysgu hefyd yn barafeddygon cofrestredig sydd yn parhau i ymarfer, gan ddarparu cyfuniad dihafal o arbenigedd academaidd fanwl gywir a phroffesiynol.

Addysgir eich cwrs ar gampws Parc Singleton ar ochr yr hyfryd Penrhyn Gwyr ac hefyd mewn lleoliadau clinigol allweddol o fewn cyfleusterau GIG ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Bydd y lleoliadau yma’n cynnwys ar fwrdd ambiwlansys gweithredol, yn ogystal â chyda cydweithwyr mewn gosodiadau ysbyty fel theatrau, ac adrannau damwain ac argyfwng. 

Eich Profiad Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol

Mae ein cyfleusterau gwych yn Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys swit clinigol realistig fel y gallwch ddysgu sgilau ymarferol mewn amgylchedd ddiogel, dan oruchwyliaeth cyn defnyddio hwy mewn sefyllfa bywyd go iawn. 

Addysgu’r eich cwrs ar gampws Parc Singleton ar ochr yr hyfryd Penrhyn Gwyr ac hefyd mewn lleoliadau clinigol allweddol o fewn cyfleusterau GIG ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Bydd y lleoliadau yma’n cynnwys ar fwrdd ambiwlansys gweithredol, yn ogystal â chyda cydweithwyr mewn gosodiadau ysbyty fel theatrau, ac adrannau damwain ac argyfwng. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol

Mae’r mwyafrif o’n graddedigion Gwyddorau Parafeddyg yn ymgymryd â rolau clinigol, naill ai o fewn y GIG neu’r sector preifat. Mae cyflog cychwyn GIG ar gyfer parafeddygon cofrestredig oddeutu £28,407 hefyd fyny hyd at 25% o daliad oriau anghymdeithasol. Gallai cyflogau sector preifat fod yn llawer mwy yn dibynnu ar y lleoliad.

Modiwlau

          

Gwyddor Barafeddygol ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol