Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y dystysgrif raddedig yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol a'r sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol i'ch galluogi i ddilyn cynllun rheoli clinigol diffiniedig ar gyfer gofal amlawdriniaethol.
Bydd y dystysgrif raddedig yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol a'r sgiliau gwneud penderfyniadau clinigol i'ch galluogi i ddilyn cynllun rheoli clinigol diffiniedig ar gyfer gofal amlawdriniaethol.
Wedi'ch lleoli yn ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch yn elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau.
Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014-2021, roedd dros 75% o’r ymchwil a wnaed yn y coleg o ansawdd rhyngwladol neu o safon fyd-eang.
Bydd yr addysgu ar gyfer y rhaglen hon wedi’i leoli ar ein campws ym Mharc Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, ond mae elfen sylweddol o ddysgu yn seiliedig ar waith (DSW), sy’n sicrhau eich bod yn dysgu ar gyfer a thrwy’r amgylchedd ymarfer.
Mae ein tystysgrif raddedig mewn Gofal Amlawdriniaethol yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa i ymarferwyr gofal iechyd anfeddygol ar draws ystod o ddisgyblaethau ac arbenigeddau.