Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r dulliau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau'n cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan alluogi ymgysylltiad llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, a gweithdai yn bennaf yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb ar y campws, gan ganiatáu gweithio mewn grŵp ac arddangosiadau. Rydym hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac Amgylcheddau Dysgu Efelychol a fydd yn hwyluso mwy o fynediad at gyfleoedd hyfforddi yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein dulliau addysgu hefyd yn cynnwys defnyddio rhywfaint o ddysgu ar-lein i gefnogi a gwella addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein ddigwydd ‘yn fyw’ gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, sy'n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau darlithoedd hefyd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ailedrych ar ddeunydd, i adolygu at asesiadau ac i wella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol ar Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n galluogi astudiaeth hyblyg bellach.
Cyflwynir y Dystysgrif gan ddefnyddio dysgu cyfunol gan gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith a phresenoldeb mewn modiwlau a addysgir; yn y tri modiwl cyntaf bydd gennych lefel uchel o addysgu dan arweiniad darlithydd a bydd eich dysgu'n dod yn fwy annibynnol ac yn canolbwyntio'n glinigol yn y modiwlau sy'n weddill.
Mae ein tîm Nyrsio yn defnyddio dull dysgu cyfunol i gyflwyno'r rhaglen sy'n cynnwys addysgu ar-lein, gan gynnwys sesiynau 'fyw' gyda'ch darlithydd yn bresennol a sesiynau wedi’u recordio ymlaen llaw ar gyfer hyblygrwydd. Efallai y bydd peth ohono hefyd yn hunangyfeiriedig sy'n golygu y gallwch cael mynediad I’r deunyddiau ar amser sy'n addas i chi.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhai modiwlau a addysgir trwy gyfrwng Cymraeg neu'n ddwyieithog i fyfyrwyr sy'n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg rhugl. I gael mwy o fanylion am y ddarpariaeth sydd ar gael gweler yr ehangydd Darpariaeth Gymraeg isod.