Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r rhaglen yn ymdrin â hanfodion Cyfrifiadureg gan ganolbwyntio’n benodol ar AI uwch a chymwysiadau cysylltiedig. Bydd y flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen cyfrifiadureg i fyfyrwyr, gan gynnwys rhaglennu, mathemateg a rhesymeg, a modiwl gwyddor data pwrpasol i baratoi ar gyfer AI sy'n canolbwyntio ar fodau dynol.
Bydd yr ail flwyddyn yn canolbwyntio ar AI graidd a modelu, yn ogystal â'r rhannau hynny o faes llafur Cyfrifiadureg sy'n allweddol wrth ddatblygu cymwysiadau AI. Bydd y rhain yn cynnig sgiliau cyfrifiadureg defnyddiol i fyfyrwyr ac yn eu helpu i integreiddio eu gwybodaeth AI yn rhwydd mewn swyddi graddedig sy'n gysylltiedig â chyfrifiadureg.
Bydd y flwyddyn olaf yn cynnwys prosiect datblygu AI mawr, ynghyd â modiwlau gofynnol mewn AI uwch a modelu mathemategol. Fel yn yr ail flwyddyn, bydd opsiynau ar gael. Bydd y prosiectau AI yn archwilio ac yn mynd i'r afael â phroblemau'r byd go iawn gyda'n partneriaid (sy’n gynnwys cymwysiadau meddygol a diwydiannol) a chyda CDT sy'n canolbwyntio ar fodau dynol.