Biocemeg a Geneteg, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Students in lab

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd gydanrhydedd hon yn cyfuno dwy ddisgyblaeth sy’n gydberthynol ac sy’n gorgyffwrdd, felly byddwch yn cael gwybodaeth fanwl o dechnegau a gwaith ymchwil uwch maes bioleg foleciwlaidd, sy’n sylfaen i ddeall pob ffurf ar fywyd.

Mae bioleg foleciwlaidd yn bwnc sydd ar dwf ac sy’n cael effaith enfawr mewn nifer o feysydd gwyddonol, gan gynnwys astudiaeth a thriniaeth clefydau dynol amrywiol, datblygiadau fferyllol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr amgylchedd a ni ein hunain.

Byddwch yn dysgu am y prosesau genetig sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg a Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe?

Ni oedd un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i gyflwyno Geneteg ar ffurf BSc yn y 1960s felly mae gennym hanes hir a mawr ei barch yn y maes hwn.

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis HPLC, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Eich profiad ym maes Biocemeg a Geneteg

Gallwch ddewis astudio Biocemeg a Geneteg fel:

  • BSc 3 blynedd
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant ar ffurf blwyddyn lleoliad gwaith.
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn dramor, neu
  • MSci 4 blynedd gyda chymhwyster lefel meistr integredig

Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

Yn ogystal, mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn Lleoliad yn cynnig blwyddyn leoliad ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, gan roi'r cyfle i chi gael profiad o waith mewn diwydiant, a'ch galluogi i fagu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Pa bynnag gymhwyster a ddewiswch, byddwch yn elwa ar arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arfer sydd ar flaen y gad.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Ddim yn meddwl eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad? Beth am ystyried ein BSc Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen?

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg a Geneteg

Mae gradd mewn Biocemeg a Geneteg yn fan cychwyn cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol megis:

  • Biotechnoleg diwydiannol
  • Cynhyrchion fferyllol
  • Diagnosteg
  • Esblygiad
  • Biowybodeg

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Biocemeg a Geneteg trwy fynd i'n Hysbysiad Hwylus Gwyddoniaeth Fiofeddygol.

Modiwlau

Mae strwythur y BSc 3 blynedd fel a ganlyn:

Mae’ch blwyddyn gyntaf wedi’i ffurfio o fodiwlau sy’n cynnwys hanfodion biocemeg a geneteg, gan gynnwys egni a metaboledd, dadansoddi genetig neu ddatblygu sgiliau biocemeg, geneteg esblygiadol a moleciwlaidd, a microbioleg.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach, gan astudio pynciau arbenigol gan gynnwys clefydau heintus a pharasitoleg, esblygiad , geneteg foleciwlaidd ficrobaidd, biotechnoleg a pheirianneg a biowybodeg protein.

Yn ystod eich blwyddyn derfynol byddwch yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol.

Os dewiswch ymgymryd â blwyddyn dramor, byddwch yn gwneud hyn rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn astudio fel a nodir uchod.

Rydym yn cynnig graddau israddedig mewn Biocemeg, Biocemeg Feddygol, Geneteg, Genetig Feddygol a gradd gydanrhydedd mewn Biocemeg a Geneteg.  I gymharu dewisiadau modiwlau ar draws y llwybrau hyn, bydd y daenlen atodedig yn dangos i chi’r modiwlau sydd ar gael.

Biocemeg a Geneteg

Biochemistry and Genetics with a Placement Year, BSc (Hons)

Biochemistry and Genetics with a Year Abroad, BSc (Hons)