Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r radd israddedig gydanrhydedd uwch hon yn cyfuno dwy ddisgyblaeth sy’n gydberthynol ac sy’n gorgyffwrdd, felly byddwch yn cael gwybodaeth fanwl o’r technegau a’r gwaith ymchwil uwch maes bioleg foleciwlaidd, sy’n sylfaen i ddeall pob ffurf ar fywyd.
Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’r rhaglen MSci hon yn dilyn ein cwrs BSc mewn Biocemeg a Geneteg, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.
Mae bioleg foleciwlaidd yn bwnc sydd ar dwf ac sy’n cael effaith enfawr mewn nifer o feysydd gwyddonol sy’n gorgyffwrdd â biocemeg, gan gynnwys astudiaeth a thriniaeth llawer o glefydau dynol, datblygiadau fferyllol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr amgylchedd a ni ein hunain.
Byddwch yn dysgu am y prosesau genetig sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.