Biocemeg Feddygol, MSci (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Biochemistry

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae biocemeg feddygol wrth wraidd meddygaeth fodern. Mae’n rhan hanfodol o’n dealltwriaeth o achosion ac effeithiau clefydau a’r ffordd rydym yn datblygu triniaethau newydd.

Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’r rhaglen MSci hon yn dilyn ein cwrs BSc mewn Biocemeg Feddygol, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.

Yn ystod y radd israddedig uwch hon byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, yn arbennig anifeiliaid a bodau dynol.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis cromatograffi hylif perfformiad uchel, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Eich profiad ym maes Biocemeg Feddygol

Mae ein staff academaidd yn weithredol mewn amrywiaeth eang o feysydd ymchwil geneteg, ac yn cynnig cymysgedd heb-ei-ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer arloesol.

Yn ogystal â’ch astudiaethau ffurfiol, rydym yn cynnal trafodaethau ymchwil rheolaidd gyda staff Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd arbenigol o brifysgolion eraill, y diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil.  

Mae’n bosibl hefyd y cewch gyfle i dreulio amser yn cynnal gwaith ymchwil mewn labordai diwydiannol neu feddygol yn y DU neu dramor.

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol, eich amcanion o ran gyrfa, a’ch cynlluniau ar gyfer astudio pellach.  

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg Feddygol

Mae gradd mewn Biocemeg Feddygol MSci yn fan cychwyn cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol megis:

  • Meddygaeth a phroffesiynau iechyd eraill
  • Datblygu cynnych fferyllol
  • Diagnosteg
  • Biowybodeg
  • Gwyddorau milfeddygol

Mae’r radd hefyd yn darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaethau pellach i ddod yn feddyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe.  

Modiwlau

Mae’ch blwyddyn gyntaf wedi’i ffurfio o fodiwlau gorfodol sy’n cynnwys hanfodion biocemeg feddygol, gan gynnwys ffisioleg ddynol, egni a metaboledd, datblygu sgiliau biocemeg, cemeg organig, geneteg foleciwlaidd, a bioleg celloedd ewcaryotig.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach, gan astudio pynciau arbenigol gan gynnwys biocemeg glinigol, geneteg ddynol a meddygol, technegau imiwnopatholeg ddynol ym maes bioleg foleciwlaidd, cludo pilenni, a meddygon, cleifion ac amcanion meddygaeth.

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol uwch dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol.

Rydym yn cynnig graddau israddedig mewn Biocemeg, Biocemeg Feddygol, Geneteg, Genetig Feddygol a gradd gydanrhydedd mewn Biocemeg a Geneteg.  I gymharu dewisiadau modiwlau ar draws y llwybrau hyn, bydd y daenlen atodedig yn dangos i chi’r modiwlau sydd ar gael.

Biocemeg Feddygol