Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Sylfaen yn Sail Meddygaeth Fodern

bsc biochemistry

Trosolwg o'r Cwrs

Os oes gennych ddiddordeb mewn Biocemeg, sut mae’n cysylltu ag astudio clefydau, datblygiad cynhyrchion fferyllol a’r berthynas gymhleth rhwng y rhain a’n hamgylchedd, ond nid oes gennych y cymwysterau mynediad y mae eu hangen er mwyn ymuno â’n rhaglen BSc, neu os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg, ein BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs cywir i chi.

Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a’r wybodaeth allweddol y mae arnoch eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’r BSc mewn Biocemeg. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda chyfartaledd cyffredinol o 60% bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.

Bydd ein graddau mewn Biocemeg yn rhoi ichi ddealltwriaeth fanwl o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid, a phobl.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau ardderchog ac yn dysgu sut i lunio arbrofion a chynllunio cynlluniau gwaith.

Pam Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn gallu manteisio ar fynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer i ddadansoddi DNA a phroteinau, dadansoddwyr delweddau ar sail cyfrifiaduron ar gyfer astudio moleciwlau neu gelloedd, a chyfleuster uwch gyfrifiadur pwerus.

Eich Profiad Biocemeg

Mae ein staff academaidd yn weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biocemeg, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer o’r radd flaenaf.

Yn ogystal â’ch astudiaethau ffurfiol, rydym yn trefnu trafodaethau ymchwil rheolaidd gyda staff Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd arbenigol o Brifysgolion eraill, byd diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil.

Efallai y bydd gennych chi hefyd y cyfle i dreulio amser yn cwblhau ymchwil mewn labordai diwydiannol neu feddygol unai yn y DU neu dramor, a hyd yn oed ymestyn eich gradd i gynnwys blwyddyn gyfan yn astudio dramor. Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi ichi’r hyblygrwydd i deilwra’ch gradd i’ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfaol, neu’ch cynlluniau ar gyfer astudio ymhellach.

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg

Mae pob un o’n graddau mewn Biocemeg yn agor ystod o gyfleoedd gyrfaol cyffrous mewn meysydd amrywiol gan gynnwys:

  • Datblygu cynhyrchion fferyllol
  • Biotechnoleg ddiwydiannol
  • Biodanwyddau
  • Ymchwil glinigol
  • Biohysbyseg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CDD

Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen

Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor