Biocemeg, MSci (Anrh)

Sylfaen Meddygaeth Fodern

msci biochemistry

Trosolwg o'r Cwrs

Mae biocemeg yn hanfodol wrth astudio a thrin clefydau, wrth ddatblygu biocemeg, ac wrth roi sylw i’r perthnasau cymhleth rhwng ein hamgylchedd a ni ein hunain.

Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear.   Mae’r rhaglen MSci hon yn dilyn ein cwrs BSc mewn Biocemeg, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.

Mae’r radd israddedig uwch hon yn dilyn ein rhaglen BSc Biocemeg gyda blwyddyn ychwanegol er mwyn i chi ddatblygu prosiect ymchwil annibynnol estynedig, uwch. Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant arbenigol ychwanegol mewn ystod eang o dechnegau labordy yn y drydedd flwyddyn er mwyn paratoi at y gwaith hwn.

Yn ystod y radd israddedig uwch hon byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau moleciwlaidd ac is-gellog, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth biocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer bioddadansoddol megis cromatograffi hylif perfformiad uchel, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Eich profiad ym maes Biocemeg

Mae ein staff academaidd yn weithredol mewn amrywiaeth eang o feysydd ymchwil geneteg, ac yn cynnig cymysgedd heb-ei-ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer arloesol.

Yn ogystal â’ch astudiaethau ffurfiol, rydym yn cynnal trafodaethau ymchwil rheolaidd gyda staff Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd arbenigol o brifysgolion eraill, y diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil.  

Mae’n bosibl hefyd y cewch gyfle i dreulio amser yn cynnal gwaith ymchwil mewn labordai diwydiannol neu feddygol yn y DU neu dramor.

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol, eich amcanion o ran gyrfa, a’ch cynlluniau ar gyfer astudio pellach.  

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg

Mae gradd mewn Biocemeg yn fan cychwyn cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol megis:

  • Datblygu cynnych fferyllol
  • Biotechnoleg diwydiannol
  • Biodanwyddau
  • Amaethyddiaeth
  • Biowybodeg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

AAB-BCC

Biocemeg