Trosolwg o'r Cwrs
Os oes gennych ddiddordeb yn y wyddoniaeth sy’n sail i gyffuriau a meddyginiaethau, ond nid oes gennych y cymwysterau mynediad y mae eu hangen er mwyn ymuno â’n rhaglen BSc, neu os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg, ein BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs cywir i chi.
Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a’r wybodaeth allweddol y mae arnoch eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’r BSc mewn Ffarmacoleg Feddygol. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda chyfartaledd cyffredinol o 60%, bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.
Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys ffarmacoleg, tocsicoleg, ffarmacogenomeg, ffisioleg, cemeg, geneteg, imiwnoleg a datblygu cyffuriau. Byddwch yn gallu teilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau eich hun, gan ddewis o fodiwlau dewisol sy'n cynnwys gwyddoniaeth gardiofasgwlaidd, diabetes, ffarmacoleg canser, bioleg atgenhedlu, niwrowyddoniaeth a nanodocsicoleg.
Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiectau ardderchog ac yn dysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith i'ch paratoi chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.