Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Deall Prosesau Genetig Bywyd

Student in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio Geneteg a mynd i mewn i’r maes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac sy’n creu effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, ond nid oes gennych y cymwysterau mynediad y mae eu hangen er mwyn ymuno â’n rhaglen BSc, neu os ydych chi’n fyfyriwr aeddfed sy’n dychwelyd i addysg, ein BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs cywir i chi.

Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a’r wybodaeth allweddol y mae arnoch eu hangen er mwyn mynd ymlaen i’r BSc mewn Geneteg Feddygol, ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus gyda chyfartaledd cyffredinol o 60%, bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.

Bydd ein gradd mewn Geneteg yn rhoi ichi ddealltwriaeth fanwl o'r meini hanfodol hyn ar gyfer bywyd ar y ddaear. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiant genynnau, rhyngweithio gan broteinau, strwythur DNA a niwed iddo, dadansoddi delweddau o fiofoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau ardderchog ac yn dysgu sut i lunio arbrofion a chynllunio cynlluniau gwaith.

Pam Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn gallu manteisio ar fynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer i ddadansoddi DNA a phroteinau, dadansoddwyr delweddau ar sail cyfrifiaduron ar gyfer astudio moleciwlau neu gelloedd, a chyfleuster uwch gyfrifiadur pwerus.

Mae’r radd BSc mewn Geneteg Feddygol yn rhan o’n rhaglen Llwybr i Feddygaeth. Ar yr amod y byddwch yn bodloni’r anghenion mynediad ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, ac wedi cwblhau’r Llwybr yn llwyddiannus, byddwch yn warantedig o gael cyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh blaengar mewn Meddygaeth i Raddedigion.

Eich Profiad Geneteg Feddygol

Mae ein staff academaidd yn weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil geneteg, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer o’r radd flaenaf.

Yn ogystal â’ch astudiaethau ffurfiol, rydym yn trefnu trafodaethau ymchwil rheolaidd gyda staff Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd arbenigol o Brifysgolion eraill, byd diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil.

Efallai y bydd gennych chi hefyd y cyfle i dreulio amser yn cwblhau ymchwil mewn labordai diwydiannol neu feddygol unai yn y DU neu dramor, a hyd yn oed ymestyn eich gradd i gynnwys blwyddyn gyfan yn astudio dramor. Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi ichi’r hyblygrwydd i deilwra’ch gradd i’ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfaol, neu’ch cynlluniau ar gyfer astudio ymhellach.

Cyfleoedd Cyflogaeth Geneteg Feddygol

Gyda gradd mewn Geneteg Feddygol, mae cyfleoedd gyrfa yn amrywiol ac yn helaeth. Maent yn cynnwys:

  • Ymchwil meddygol,
  • Diwydiant fferyllol a gwyddorau iechyd,
  • Astudiaethau ôl-raddedig (MSc, MRes, PhD)
  • Cwnsela genetig,
  • Gwyddonydd clinigol,
  • Meddygaeth mynediad i raddedigion
  • Cydymaith Meddygol
  • Dysgu
  • Ysgrifenydd gwyddonol
  • Biowybodeg

Mae’r radd hefyd yn darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaethau pellach i ddod yn feddyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe.  

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

CCD

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor