Geneteg Feddygol, MSci (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
msci medical genetics

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudiaeth geneteg feddygol yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr ar feddygaeth, gan ein helpu i ddeall, diagnosio a thrin llawer o glefydau dynol sydd ag elfen enetig.

Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’r rhaglen MSci yn dilyn ein cwrs BSc mewn Geneteg Feddygol, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.

Bydd ein gradd israddedig uwch yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer bywyd.   Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.

Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Eich profiad ym maes Geneteg Feddygol

Mae ein staff academaidd yn weithredol mewn amrywiaeth eang o feysydd ymchwil geneteg, ac yn cynnig cymysgedd heb-ei-ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer arloesol.

Yn ogystal â’ch astudiaethau ffurfiol, rydym yn cynnal trafodaethau ymchwil o leiaf unwaith yr wythnos a gyflwynir gan staff Prifysgol Abertawe neu siaradwyr gwadd o brifysgolion eraill neu sefydliadau ymchwil.  Mae’n bosibl hefyd y cewch gyfle i dreulio amser yn cynnal gwaith ymchwil mewn labordai diwydiannol neu feddygol yn y DU neu dramor.

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi’r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol, eich amcanion o ran gyrfa, a’ch cynlluniau ar gyfer astudio pellach.

Cyfleoedd Cyflogaeth Geneteg Feddygol

Gyda gradd mewn Geneteg Feddygol, mae cyfleoedd gyrfa yn amrywiol ac yn helaeth. Maent yn cynnwys:

  • Ymchwil meddygol,
  • Diwydiant fferyllol a gwyddorau iechyd,
  • Astudiaethau ôl-raddedig (MSc, MRes, PhD)
  • Cwnsela genetig,
  • Gwyddonydd clinigol,
  • Meddygaeth mynediad i raddedigion
  • Cydymaith Meddygol
  • Dysgu
  • Ysgrifenydd gwyddonol
  • Biowybodeg

Mae’r radd hefyd yn darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaethau pellach i ddod yn feddyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth Mynediad-i-Raddedigion yn Abertawe.

Modiwlau

Mae eich blwyddyn gyntaf wedi’i ffurfio o fodiwlau sy’n rhoi sylw i sylfeini gwyddonol hanfodol, gan gynnwys geneteg esblygol a moleciwlaidd, dadansoddi genetig, bioleg celloedd ewcaryotig, a ffisioleg ddynol.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach, gan astudio pynciau arbenigol gan gynnwys geneteg ddynol a meddygol, datblygiad anifeiliaid, imiwnopatholeg ddynol, tocsicoleg enetig, geneteg canser, a meddygon, cleifion ac amcanion meddygaeth.

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol.

Rydym yn cynnig graddau israddedig mewn Biocemeg, Biocemeg Feddygol, Geneteg, Genetig Feddygol a gradd gydanrhydedd mewn Biocemeg a Geneteg.  I gymharu dewisiadau modiwlau ar draws y llwybrau hyn, bydd y daenlen atodedig yn dangos i chi’r modiwlau sydd ar gael.

Geneteg Feddygol