Trosolwg o'r Cwrs
Mae astudiaeth geneteg yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr mewn ystod o feysydd gwyddonol, gan gynnwys deall a thrin clefydau amrywiol, datblygu fferyllol, esblygiad, cadwraeth a bioamrywiaeth.
Gradd MSci 4-blynedd israddedig uwch yw hon, sy’n ychwanegu blwyddyn ar ben y BSc 3-blynedd, sy’n canolbwyntio ar waith ymchwil. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’r rhaglen MSci yn dilyn ein cwrs BSc mewn Geneteg, ond mae’n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy. Yn ystod y flwyddyn ychwanegol byddwch yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.
Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.
Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.