Trosolwg o'r Cwrs
Os oes diddordeb gennych yn y gwyddorau meddygol ond nad oes gennych y cymwysterau mynediad i ymuno â’n rhaglen BSc neu os ydych yn fyfyriwr hŷn sy’n dychwelyd i addysg, ein cwrs BSc gyda Blwyddyn Sylfaen yw’r cwrs priodol i chi.
Bydd blwyddyn sylfaen y cwrs pedair-blynedd hwn yn eich cyflwyno i’r cysyniadau a gwybodaeth allweddol sydd eu hangen arnoch i barhau i’r BSc yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol. Wedi iddynt lwyddo i gyflawni’r Flwyddyn Sylfaen gyda chyfanswm o 60% ar gyfartaledd, bydd myfyrwyr yn parhau i Flwyddyn 1 y BSc. Mae’n bosib y bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen hefyd i Flwyddyn 1 rhaglen BSc Ffarmacoleg Feddygol neu Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol neu rhaglen BSc Ffarmacoleg Feddygol.
Byddwch yn dysgu hanfodion cemeg fiolegol, metaboledd a homeostatis, microbioleg a chlefydau, bioleg foleciwlaidd, sgiliau trin a dadansoddi data, a sgiliau labordy. Gan barhau i’r rhaglen BSc lawn, byddwch yn ennill sylfaen drwyadl yn y wyddoniaeth sy’n tanategu meddygaeth fodern, gan astudio pynciau amrywiol sy’n cynnwys anatomi a ffisioleg ddynol, bioleg celloedd, geneteg, ffarmacoleg a niwrowyddoniaeth, ynghyd â’u perthnasedd clinigol a chymhwysol.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae’r corff dynol yn gweithio, beth sy’n digwydd pan fydd yn mynd o’i le, sut yr ydym yn trin anhwylderau ar hyn o bryd, a’r potensial ar gyfer therapiwteg newydd.