Trosolwg o'r Cwrs
Os oes gennych chi ddiddordeb yn “y peth mawr nesaf mewn gofal iechyd” ond nid oes gennych chi'r cymwysterau mynediad gofynnol, neu os ydych chi'n fyfyriwr aeddfed sy'n dychwelyd i addysg, gallai ein rhaglenni yn y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau gyda Blwyddyn Sylfaen fod yn addas i chi.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i'r cysyniadau a'r wybodaeth allweddol yn y gwyddorau meddygol cymhwysol y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i naill ai'r BSc neu'r MSci yn y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gyda marc cyfartalog cyffredinol o o leiaf 60%, byddwch yn gallu symud ymlaen i Flwyddyn 1 y naill raglen neu'r llall.
Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y gwyddorau meddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, epidemioleg, demograffeg, iechyd cyhoeddus a gwybodeg iechyd.
Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen, byddwch hefyd yn mynd ymlaen i ddatblygu'r wybodaeth academaidd a phroffesiynol sydd ei hangen i bennu amrywiadau systematig o ran iechyd unigolion a phoblogaethau, yn ogystal â'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gymhwyso'r wybodaeth hon i atebion ymarferol i wella iechyd, lles a chyflwyno gwasanaethau iechyd.