Academi Gofal Sylfaenol yr Ysgol Feddygaeth

Student using opthalmascope

Beth yw trac yr Academi Gofal Sylfaenol?

Nod llwybr Academi Gofal Sylfaenol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yw darparu profiad dysgu o'r ansawdd uchaf i fyfyrwyr mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, gan baratoi'n darpar feddygon ar gyfer gofynion iechyd cleifion, teuluoedd a chymunedau yn y degawdau sydd i ddod.

Cefndir a Chyd-destun

Meddyg yn siarad â'r Claf

Darperir mwyfwy o ofal iechyd y tu allan i ysbytai, yng nghartrefi cleifion neu mewn lleoliadau yn y gymuned sy'n agos atynt. Bydd hyn yn golygu y bydd angen sgiliau ychwanegol ar ein meddygon yn y dyfodol o ran arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm, arddel ymagwedd gyfannol at gleifion, meddu ar ddealltwriaeth well o iechyd ataliol a gwella lles, ynghyd â gwneud diagnosis a thrin clefyd.

Oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, mae nifer y cleifion sydd â chyflyrau iechyd cymhleth yn cynyddu'n gyson a bydd yn rhaid i feddygon ddatblygu sgiliau 'arbenigol cyffredinol' a fydd yn eu galluogi i gynnwys gwybodaeth am amrywiaeth o arbenigeddau i ofalu am gleifion mewn modd 'cyfannol' ac nid mewn ffordd ranedig.

Ynglŷn â Thrac yr Academi Gofal Sylfaenol

Meddyg cyfarch plentyn

Nod llwybr Academi Gofal Sylfaenol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yw darparu profiad dysgu o'r ansawdd uchaf i fyfyrwyr mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, gan baratoi'n darpar feddygon ar gyfer gofynion iechyd cleifion, teuluoedd a chymunedau yn y degawdau sydd i ddod.

Gyda chymorth ein Byrddau Iechyd Prifysgol lleol, cyflwynir yr Academi Gofal Sylfaenol ar draws cymunedau lleol ac mae'n cefnogi dysgu ac addysgu amlddisgyblaethol o safbwynt gofal cymunedol, wrth alluogi myfyrwyr meddygaeth i gyflawni'r un deilliannau dysgu â'u cymheiriaid ar lwybr lleoliad gofal eilaidd.

Gwybodaeth Bellach